Athronydd Marcsaidd, cymdeithasegydd, a cherddolegydd o'r Almaen oedd Theodor Wiesengrund Adorno (11 Medi 1903 – 6 Awst 1969).
Theodor W. Adorno | |
---|---|
Ganwyd | 11 Medi 1903 Frankfurt am Main |
Bu farw | 6 Awst 1969 Visp |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America, yr Almaen, Ymerodraeth yr Almaen |
Alma mater | |
ymgynghorydd y doethor | |
Galwedigaeth | athronydd, cyfansoddwr, cerddolegydd, cymdeithasegydd, academydd, beirniad llenyddol, beirniad cerdd, gwirebwr, pianydd, ysgrifennwr, academydd, esthetegydd |
Cyflogwr | |
Adnabyddus am | Gesammelte Schriften, Negative Dialektik, Ästhetische Theorie, Dialektik der Aufklärung, Philosophie und Musik, Minima Moralia, The Authoritarian Personality |
Arddull | cerddoriaeth glasurol |
Prif ddylanwad | Walter Benjamin, Max Horkheimer, Georg Hegel, Karl Marx, Friedrich Nietzsche |
Mudiad | Ysgol Frankfurt, cerddoriaeth glasurol yr 20fed ganrif, continental philosophy |
Priod | Gretel Adorno |
Gwobr/au | Plac Goethe Dinas Frankfurt am Main |
Ganwyd yn Frankfurt am Main yn nhalaith Hessen, i fam Gatholig o Gorsica a thad Protestannaidd o dras Iddewig. Yn Frankfurt fe enillodd ddoethuriaeth mewn athroniaeth o Brifysgol Johann Wolfgang Goethe. Aeth i Fienna yn 1925 i astudio dan y cyfansoddwr Alban Berg. Dychwelodd i Frankfurt yn 1927 ac ymunodd â'r Institut für Sozialforschung (IfS) yn y brifysgol. Y sefydliad hwnnw a gynhyrchai Ysgol Frankfurt, ac Adorno oedd un o brif feddylwyr y mudiad deallusol hwnnw.
Cafodd Adorno a nifer o aelodau eraill yr IfS eu gyrru allan o'r Almaen gan y llywodraeth Natsïaidd yn 1934, a symudodd Adorno i Loegr i addysgu ym Mhrifysgol Rhydychen. Ymfudodd i'r Unol Daleithiau yn 1938, ac yno fe gyd-weithiodd gyda Max Horkheimer, cyfarwyddwr yr IfS, wrth ysgrifennu sawl llyfr, gan gynnwys Dialektik der Aufklärung (1947). Dychwelodd Adorno a Horkheimer i'r Almaen yn 1949, ac ailgychwynasant eu gwaith yn Frankfurt yn 1951. Bu farw yn 65 oed.
Cysyniad amlycaf Adorno yw'r diwydiant diwylliant, a gyflwynir mewn pennod o Dialektik der Aufklärung sy'n disgrifio sut y dadelfennir celfyddyd yn y system gyfalafol er mwyn creu cynnyrch masnachol, torfol. Dadleua Adorno bod y diwydiant yn effeithio'n negyddol ar anian a nodweddion celfyddyd drwy bwysleisio'i marchnadwyedd ar draul ei "diffyg pwrpas" (celfyddyd er mwyn celfyddyd). Felly, tro diwylliant yn nwydd economaidd i'w gyfnewid yn hytrach na pheth o werth ynddo'i hun. Mae Adorno yn gwadu taw'r un peth yw rhinwedd neu deilyngdod cynnyrch diwylliannol a'i bris cymdeithasol, sydd yn ffetis. Effaith y fath fasnacheiddio yw ymyleiddio celfyddyd annibynnol, megis celf fodernaidd ac haniaethol, yr union gelfyddyd sydd yn gallu "herio cyfundrefn cyfalaf, naill ai trwy amlygu natur ddrylliedig realiti cymdeithasol neu trwy gynnig gweledigaeth dra gwahanol o'r byd".
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Theodor W. Adorno, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.