Dull Marcsaidd a Freudaidd o drin syniadaeth ac ymchwil cymdeithasol a gwleidyddol yw damcaniaeth feirniadol sydd yn canolbwyntio ar rym mewn strwythurau cymdeithasol.
Cafodd ei harloesi yn y 1930au gan Ysgol Frankfurt, sef criw o ysgolheigion yr Institut für Sozialforschung, Prifysgol Frankfurt, yn eu plith Herbert Marcuse, Max Horkheimer, Theodor W. Adorno, Walter Benjamin, ac Erich Fromm. Mae gan ddamcaniaethwyr beirniadol agwedd weithredol at athroniaeth, gan gredu bod yn rhaid i'r ysgolhaig wrth ei waith mynd i'r afael â'r strwythurau grym sydd yn rheoli ac yn gormesu pobl, a cheisio'u gorchfygu.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Damcaniaeth feirniadol, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.