Ffilm fud ddu a gwyn am hanes blynyddoedd olaf teyrnasiad Llywelyn Ein Llyw Olaf yw The Last King of Wales (1922).
Bu'r ffilm ar goll am flynyddoedd ond cafodd ei ailddarganfod yn ddiweddar.
Serennu | Charles Ashton Malvina Longfellow |
---|---|
Dylunio | |
Cwmni cynhyrchu | British and Colonial Company |
Dyddiad rhyddhau | 1922 |
Gwlad | DU |
Cynhyrchwyd y ffilm gan y British Colonial Company yn 1922 fel rhan o'r gyfres ddeuddeg darn Romance of History. Mae'n serennu Charles Ashton fel Llywelyn ('Llewellyn' yn y ffilm) a'r actores Americanaidd ifanc Malvina Longfellow, yn enedigol o Ddinas Efrog Newydd, fel ei wraig Elinor de Montfort.
Darganfuwyd copi o'r ffilm - yr unig un i oroesi efallai - gan y casglwr hen ffilmiau Patrick Moules. Bydd rhannau o'r ffilm yn cael eu sgrinio am y tro cyntaf ers tua 80 mlynedd yn haf 2008 mewn gŵyl ffilm yn Theatr y Drwm, Aberystwyth. Mae'r print o'r ffilm yn y broses o gael ei drosglwyddo i fformat fideo digidol gan arbenigwyr yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru i'w diogelu i'r dyfodol.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article The Last King of Wales, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.