Sholem Aleichem

Nofelydd, awdur straeon byrion, a dramodydd Rwsiaidd yn yr ieithoedd Iddew-Almaeneg, Rwseg, ac Hebraeg oedd Sholem Aleichem, ffugenw am Solomon Naumovich Rabinovich (2 Mawrth 1859 – 13 Mai 1916) sydd yn nodedig am ei ffuglen boblogaidd a digrif sydd yn ymdrin â bywyd yr Iddewon yn y shtetl.

Fe'i ystyrir yn un o'r llenorion gwychaf yn llenyddiaeth Iddew-Almaeneg, ac ef oedd yr awdur cyntaf i ysgrifennu i blant drwy gyfrwng yr Iddew-Almaeneg. Cyhoeddodd mwy na 40 o gyfrolau o nofelau, straeon byrion, a dramâu Iddew-Almaeneg, yn ogystal â gweithiau eraill yn Rwseg a Hebraeg.

Sholem Aleichem
Sholem Aleichem
GanwydШолом Нохумович Рабинович Edit this on Wikidata
18 Chwefror 1859 (yn y Calendr Iwliaidd), 5 Mawrth 1859 Edit this on Wikidata
Pereiaslav Edit this on Wikidata
Bu farw13 Mai 1916, 1916 Edit this on Wikidata
Dinas Efrog Newydd Edit this on Wikidata
DinasyddiaethYmerodraeth Rwsia, Unol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Galwedigaethdramodydd, ysgrifennwr Edit this on Wikidata
PlantSarah Solomonovna Rabinovich, Marie Waife Edit this on Wikidata
PerthnasauBel Kaufman, Ben Zion Goldberg Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://sholemaleichem.org Edit this on Wikidata
llofnod
Sholem Aleichem

Ganed Solomon Naumovich Rabinovich ar 3 Mawrth 1859 yn Pereiaslav, ar lannau Afon Dnieper, yn Ymerodraeth Rwsia (bellach yn yr Wcráin). Roedd yn drydydd mab i Menakhem-Nokhem Rabinovich, masnachwr coed a grawn, a'i wraig Khave-Ester, Zeldin gynt. Mynychodd Solomon ysgol wladol Ymerodraeth Rwsia yn ogystal â derbyn addysg Iddewig draddodiadol. Bu farw ei fam pan oedd Solomon yn 13 oed. Bu'n llenydda ers ei arddegau, a gweithiodd yn diwtor preifat yn yr iaith Rwseg yn 17 oed. Ysgrifennodd ei erthyglau ac ysgrifau cynnar yn Rwseg ac yn Hebraeg. Yn ddiweddarach gwasanaethodd yn "rabi swyddogol", sef cofiadur y gymuned Iddewig, yn nhref Lubny. Yno dechreuodd ysgrifennu drwy gyfrwng yr Iddew-Almaeneg, ac yn 1883 cyhoeddodd ei stori gyntaf yn yr iaith honno. Defnyddiodd Aleichem ffortiwn ei wraig i hyrwyddo llenorion Iddew-Almaeneg ac i olygu a chyhoeddi'r blwyddlyfr Di yidishe folks-bibliotek (1888–89; "Y Werin-Lyfrgell Iddewig"), ond collodd ran fawr o'r arian mewn methiannau busnes. Ei gymeriad enwocaf yw Tevye y llaethmon.

Yn sgil pogrom yn Kiev yn 1905, ymfudodd i Unol Daleithiau America ac ymsefydlodd yn Efrog Newydd yn Hydref 1905. Ymsefydlodd ei deulu yn y Swistir ac aeth ar dro yn darlithio ar draws Ewrop ac Unol Daleithiau America. Aeth ar daith ddarlithio i Rwsia yn 1908, ac yno cafodd haint difrifol ar ei ysgyfaint. Er gwaethaf ei afiechyd, parhaodd yn llenor toreithiog ac ymhlith ei gyhoeddiadau yng nghyfnod diweddaraf ei oes bu Motel Ben Pasey the Chazan, The Flood, a The Correspondence of Menachem Mendel and His Wife Shayndel Shaynda. Treuliodd ddeng mlynedd olaf ei oes yn Efrog Newydd, ac enillodd y llysenw "y Mark Twain Iddewig" yn yr Unol Daleithiau wedi i nifer o'i weithiau gael eu cyfieithu i'r Saesneg.

Ar ddechrau'r Rhyfel Byd Cyntaf, cafodd Sholem a'i deulu eu symud i Copenhagen, ac yno dechreuodd ysgrifennu ei drasicomedi It's Hard to Be a Jew. Yn niwedd 1914, dychwelodd i Efrog Newydd a chyhoeddodd ei hunangofiant, From the Market-place, a straeon am y rhyfel. Ysgrifennodd y ddrama The Great Prize ym 1915. Bu farw Sholem Aleichem ar 13 Mai 1916 yn Ninas Efrog Newydd yn 57 oed. Aeth rhyw 300,000 o bobl i'w angladd, a chafodd ei farwolaeth ei nodi gan Gyngres yr Unol Daleithiau.

Cyfeiriadau

Tags:

13 Mai18 Chwefror185919162 MawrthDramodyddHebraegIddew-AlmaenegIddewonLlenyddiaeth Iddew-AlmaenegNofelyddRwsegRwsiaShtetlStraeon byrion

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

DisgyrchiantIn My Skin (cyfres deledu)Afon TâfAnton YelchinBettie Page Reveals AllRhif Llyfr Safonol RhyngwladolThe Color of MoneyGregor MendelComin WicimediaCilgwriEmmanuel MacronVaughan GethingDydd IauRecordiau CambrianYsgol alwedigaetholDyn y Bysus EtoTânFfilm gyffroDewi SantMamalWoody GuthrieGorllewin SussexHuang HeCaernarfonUsenetRishi SunakBeauty ParlorLlanfair PwllgwyngyllWikipediaEiry ThomasAlldafliad benywAlldafliadGwamScusate Se Esisto!The DepartedSefydliad WicifryngauKrishna Prasad BhattaraiSupport Your Local Sheriff!Not the Cosbys XXXCaer Bentir y Penrhyn DuAmerican Dad XxxDegPlanhigynAfon ClwydLlyfrgell Genedlaethol CymruAfter EarthNia Ben AurY Mynydd BychanHawlfraintSefydliad WicimediaEleri MorganTyn Dwr HallIechydMuscat69 (safle rhyw)Simon BowerCalan MaiRhyfel yr ieithoeddMegan Lloyd GeorgeWhitestone, DyfnaintAstwrieg🡆 More