Mae hwn yn archif o drafodaethau gorffennol. Peidiwch â golygu cynnwys y dudalen hon. Os hoffech ddechrau trafodaeth newydd neu adfywio hen un, gwnewch felly ar y tudalen sgwrs gyfredol, os gwelwch yn dda.
Tua wythnos a hanner yn ôl wnes i ychwanegu sgript (sydd yn bodoli ar llawer o'r wicïau eraill) i MediaWici:Monobook.js er mwyn newid y tab ar frig y hafan felly mae'n darllen "hafan" yn lle "erthygl", ac i gael gwared ar y pennawd sy'n darllen "Hafan" fel 'teitl' y dudalen. Mae'n ymddangos nawr bod hyn yn gweithio. Ro'n i'n meddwl dylai gadael neges rhag ofn bod hyn yn peri syndod i unrhywun! —Adam (sgwrs • cyfraniadau) 17:43, 11 Ionawr 2008 (UTC)
Rwy wedi symud 'blwch tywod' i 'pwll tywod' achos bod hon yn ymddangos bod yn ei defnyddio'n fwy arferol. (Ydy 'blwch tywod' yn gyfieithiad 'sandbox' yn Saesneg yr UDA?) All rhywun newid y ddolen o'r hafan os gwelwch yn dda? Diolch.
Wedi newid blwch i bwll. Byddai wedi bod yn dda cael trafod y newid hwn cyn mynd ati - nid fy mod yn gwrthwynebu'r newid. Af ati i newid y negeseuon sy'n cael eu heffeithio gan hyn pan gaf gyfle, os na fydd rhywun arall wedi gwneud cyn fi. Lloffiwr09:28, 12 Mawrth 2008 (UTC)
Diolch. "Byddai wedi bod yn dda cael trafod y newid hwn cyn mynd ati." -- mae pob newidiad yn gallu cael ei ddadwneud yn hawdd.
Pwynt Lloffiwr yw ei fod yn syniad trafod rhywbeth fel hyn yn gyntaf yn arbennig i dudalen reit pwysig fel yr Hafan, a bod hynny'n well na gwneud newidiadau di-ddiwedd. Hefyd cofia lofnodi dy sylwadau gyda '~~~~' :-) --Ben Bore10:13, 12 Mawrth 2008 (UTC)
Hi! I translated Wicipedia:Cymraeg into Turkish (under my IP address rather than my username - this was before I got an account on the Welsh Wikipedia), so can an administrator please add Türkçe to the list of languages in the Cymraeg section, please? Thanks in advance. Runningfridgesrule20:49, 10 Ebrill 2008 (UTC)
All rhywun newid "Learner's Corner" i "Learners' Corner" (Cornel y Dysgwyr) os gwelwch yn dda. Dwi'n reit fussy am ddefnydd cywir y collnod yn Saesneg, ond dwi ddim â'r gallu ei newid. Diolch. Alan01207:36, 18 Gorffennaf 2008 (UTC)
You'll see above that I requested a minor change because I can't edit this page. Now Rhion kindly obliged within minutes, and in any case I suspect (from the discussion in the Caffi) that I myself will have admin rights myself sometime soon, but it does make me think that it would be worth trying semi-protection of the main page, so that logged-in users can still edit it. This will still be enough to stop most casual vandalism. As it is, there are a number of included templates that aren't protected, and they don't in practice get constantly vandalised, so the threat to the main page probably isn't that severe (though it may be worth putting a comment a the top of the wiki source to say please discuss before doing any kind of major overhaul). Thanks. Alan01207:55, 18 Gorffennaf 2008 (UTC)
Seems fair enough. We had a bad spell of vandalism some time ago with this being a regular target, if I remember correctly. I see no reason against removing the semi-protect for now: we can always slap it on again if it gets vandalised. The actual front page, rather than the Sgwrs, should remain protected of course, for obvious reasons. By the way, if you have a list of vulnerable templates maybe we should consider semi-protecting them if they're important enough - even a change with the best of intentions could prove "inconvenient" and I think it's standard practice on other wikipedias. It would help if we had an anti-vandal bot here as well; there are a number on en., for instance. Anatiomaros18:21, 18 Gorffennaf 2008 (UTC)
Ah, no, I really was talking about the main page itself, not this talk page, and I was talking about *reducing* its level of protection, from current full protection to semi-protection. Looking at the history of vandalism to this talk page seems to bear out my feeling that it's largely by anons. The only one I spotted by a logged in user was one called "Dumb Saesneg", and given that semi-protect also covers newly created usernames (for the first few days), that one would have been blocked on the basis of inappropriate username before it had aged enough to be able to edit semi-protected pages. But if conversely we wanted to go fully the other way from what I'm suggesting, then what we would do is add *cascading* page protection, that automatically protects every included template (and in principle any templates that they include, etc) Alan01219:34, 18 Gorffennaf 2008 (UTC)
Ah, I see. I'd misunderstood. But as the "Front Page" is so important even if we open it up for trusted users any change, other than the most minor of spelling corrections, should be discussed first, I think. If I recall rightly, the only time I've changed anything related to it was in response to a request from metawiki. The problem is not "mistrusting" regular contributors but the fact that anyone could log in, make a few innocuous edits, then come back in a week or so and wreak havoc. But I'll see what other contributors have to say on this. There must be guidance on this and similar issues somewhere as well. Maybe Deb would know? The protection can always be lifted temporarily in order for someone not otherwise permitted to do so make an agreed change and restored afterwards. Had you anything particular in mind? Anatiomaros19:59, 18 Gorffennaf 2008 (UTC)
No, nothing particular. Just that I'd had to ask just to change an apostrophe, so I wondered if this extra level of hassle might be deterring people from making other potentially useful minor changes. But obviously there are pros and cons. It's not something I've strong feelings about, but worth raising at least. Alan01222:37, 18 Gorffennaf 2008 (UTC)
Yma ar gomun, mae'n ddweud "A vector version of this image (SVG) is available. It should be used in place of this raster image when superior." Dw i wedi creu prawf-gopi o'r hafan, sy'n cynnwys y fersiwn SVG, gwelwch Hafan/Prawf. Oes unrhyw reswm dros beidio a'i ddefnyddio? Alan10:03, 3 Awst 2008 (UTC)
Dwi ddim yn gwybod am unrhyw reswm dros gadw'r hen fersiwn - mae'n debyg mai hwnnw oedd yr unig fersiwn oedd i'w gael, neu'r un gorau, pan osodwyd ef gyntaf. Yn cefnogi'r newid os na ddaw rhyw reswm technegol i'r amlwg dros beidio â newid. Lloffiwr10:22, 3 Awst 2008 (UTC)
Mae angen ail-ysgrifennu'r dudalen Wicipedia:Ystadegau Wicipedia Cymraeg yn ddybryd. Gan nad oes neb wedi mynd ati i wneud hynny, rwyn bwriadu tynnu'r cyswllt ato oddi ar yr Hafan. Pan gaiff ei hail-ysgrifennu digon rhwydd fydd dodi'r cyswllt ar yr Hafan eto. Mae dau gyswllt at y dudalen arbennig Ystadegau ar yr Hafan yn barod, felly nid ydym heb wybodaeth ystadegol wedi ei gysylltu â'r hafan. Yn lle'r cyswllt rwyn bwriadu gosod cyswllt at y dudalen arbennig Fersiwn. Lloffiwr21:04, 5 Hydref 2008 (UTC)
As this Wiki - sorry, Wici - has now passed 20,000 articles, it has become eligible for an interwiki link from the en:wiki main page. This is an achievement for a small wiki, but has the down-side that it may lead to extra vandalism. It may be worth being a bit more vigilant in the future. Incidentally, if my counting back is correct, the milestone article is Seiclo yng Ngemau Olympaidd yr Haf 1980. – Tivedshambo(talk)22:30, 20 Tachwedd 2008 (UTC)
Dwi'n awgrymu creu'r fersiwn newydd a wyt ti'n cynnig, ond dan deitl arall, achos fasai hi'n haws i'w thrafod fel hynny na gyda'r "screenshot". Defnyddion ni Hafan/Nadolig yn ddiweddar am yr un pwrpas, cyn i ni wneud newidiadau dros dymor y Nadolig. Gallet ti ddefnyddio Hafan/Newydd er enghraifft. Alan17:57, 27 Ionawr 2009 (UTC)
Ia, basai'n syniad da i gael tudalen arbrawf yn gyntaf i ni gael gweld sut mae'n edrych ar y sgrin. Dwi'n meddwl fod diwygiad Rhys yn edrych yn ddeniadol a lliwgar. Yr unig feirniadaeth sydd gen i ydy'r dewis o luniau, sydd i gyd o Gymru. Gan fod hyn yn wyddoniadur catholig - h.y. sy'n cynnwys pawb a phopeth - fe allai hynny gamarwain ymwelwyr tro cyntaf i feddwl mai gwyddoniadur am Gymru yn unig ydym ni. Ond hawdd newid hynny. Gellid amrywio'r lluniau o bryd i'w gilydd hefyd, efallai? Anatiomaros18:50, 27 Ionawr 2009 (UTC)
Whaw! Dyna welliant! Da iawn rhys! Dw i'n hoffi syniad Anatiomaros hefyd: chydig o luniau o'r byd mawr yn eu canol nhw: person, digwyddiad cyfoes (ee Llain Gaza) a beth am rhywbeth gwyddonol ee CERN. Dewid di! Fedrwn ni eu rhoi nhw'n unigol mewn tabl, Rhys? Fel hyn, mi fydd hi'n nhaws newid rhai - bron yn ddyddiol, wedyn? Jest syniad. Ond dwi gant-y-cant y tu ol i dy syniad o ddod a chydig o liw a raz-ma-taz i fewn i'r clawr! Llywelyn200020:27, 27 Ionawr 2009 (UTC)
Iawn....dim ond am ychwanegu bach o lliw a logo wikipedia o ni. Gall y lluniau cael ei newid yn rheolaidd ac hefyd ei newid ar gyfer digwyddiadau gwahanol trwy'r flwyddyn e.e Dydd Gwyl Dewi, Santes Dwynwen.....a.y.y.b --Rhys20:39, 27 Ionawr 2009 (UTC)
Da iawn Rhys, ond mae'r dudalen prawf yn edrych yn wahanol i'r screenshot uchod ar fy mhorwr i, gyda'r logo ar ben ei hun (lle gwag i'r chwith), a'r lluniau'n rhedeg i ddwy res. Pam, tybed? Anatiomaros20:42, 27 Ionawr 2009 (UTC)
Hmmm??? Efallai mai rhywbeth i wneud a maint ein sgriniau yw e- mae'n iawn arno un fi. Os yr ydym am newid yr hafan bydd rhaid i ni sicrhau fod y lluniau mewn un rhes efo pawb!! --Rhys20:44, 27 Ionawr 2009 (UTC)
Dw i'n mynd i swnio'r rêl hen ddyn blin, ond yn bersonol, fyddai'n well gyda fi ei adael fel y mae. Mae llawer o wybodaeth ar y dudalen flaen yn barod, gwybodaeth am sut i ddefnydido'r wefan a'r rhan 'Pigio' (tamaid o erthygl dethol - sydd fel arfer gyda delwedd).
Yn anffodus dydy o ddim. Mae'r lluniau yn un rhes rwan ond mae'r logo yno ar ben ei hun, ar y dde uwchben y llinell borffor. Wnes i glirio'r stash ar firefox, rhag ofn, ond dim gwahaniaeth. Hefyd dwi wedi cymryd IE allan o ymddeoliad a thrio gyda hynny, ond mae'n edrych yr un fath. Pam nad ydy o'n ymddangos ar ddiwedd y llinell, fel yn y screenshot, tybed? Dwi wedi trio newid o ar y dudalen prawf ond does dim byd yn tycio. Oes unrhyw un arall yn cael yr un broblem? Anatiomaros22:00, 27 Ionawr 2009 (UTC)
Wps!! Gwasgais "Dangos Rhagolwg" yn lle "Cadw'r dudalen" Os nad ydi o'n iawn nawr well i ni wrando ar BenBore a gadael hi fod!!! Sori am yr holl ffus! Rhys22:04, 27 Ionawr 2009 (UTC)
Be ydy maint dy sgrin? Rwan mae'r logo o dan y llinell borffor, i'r de o'r testun! Os dwi'n cael problemau bydd pobl eraill yn siwr o cael hefyd. Anatiomaros22:09, 27 Ionawr 2009 (UTC)
Wel, fy 'resolution' i ydy 1280 x 1021, ac mae'n gweithio. Rhys, pan gei di amser, dos i Start > Control Panel > Display > Settings yna llusga'r togl i weld effaithiau gwahanol gyda resolution gwahanol. Nos da! Llywelyn200022:29, 27 Ionawr 2009 (UTC)
Sori i sbwylio'r parti, ond rhaid i mi ddweud fy mod i'n tueddu i gytuno efo Ben Bore. Faswn i ddim yn gwrthwynebu rhagor o liw, ond dydy'r lluniau ddim yn ychwanegu unrhyw wybodaeth yn eu ffurf bresennol. Dwi'n tybio y byddwn i mwy o'u plaid petawn nhw'n cysylltu at erthyglau o ddiddordeb pan glicir arnynt, o leiaf. (Dwi'n meddwl bod hynny'n bosib, ond dwn i ddim sut i'w wneud.) Ac rwy'n teimlo'n gryf iawn bod yr eicon animeiddiedig yn hollol anaddas; dydy e ddim yn ymddangos o ddifrif o gwbl, ac wela i mo prosiect arall sy'n ei ddefnyddio heblaw Uncyclopedia. Alan22:46, 27 Ionawr 2009 (UTC)
Dwi i wedi chwarae gyda'r dyluniad yn dipyn bach fy hun ar Hafan/Prawf2. Dwn i ddim os ydw i'n hoffi'r canlyniad o gymharu gyda'r fersiwn rhedegol i ddweud y gwir, ond dyma syniad o leiaf. Alan19:21, 28 Ionawr 2009 (UTC)
Ar ol gwneud rhyw dri / bedwar o gloriau, beth am gynnal etholiad fawreddog i bawb fwrw eu pleidlais pa un i'w ddefnyddio? (Ben Bore i bleidleisio dros gadw'r statws cwo, efallai). Hehe. Da iawn. Llywelyn200000:12, 29 Ionawr 2009 (UTC)
Efallai. Ond cyn hynny, dyma fersiwn arall: Hafan/Prawf3. Rhaid i mi ddefnyddio'r Saesneg unwaith eto (yn anffodus) i eglurhau'r bwriad ond y problemau hefyd gyda Phrawf2...
What I was trying to achieve with Hafan/Prawf2 was:
to fill the space where Hafan/Prawf has a duplicate copy of the wiki puzzle logo (already there in the top-left) with something different;
by moving the dragon, it took it out of the "Cymraeg" section where it was sometimes messing up the column width (by imposing a minimum column width regardless of window size) -- and gives it more prominence (despite making it smaller) by putting it near the top
But I think I was "trying to be too clever" with that green strip, and the problems created were:
The green is a very intense colour, and a large area of it is ugly.
The design is too fragile. By having the green and white strips of a fixed height (needed in order to match up with the dragon logo), it is a total mess if the text overflows them, e.g. if the browser window is narrowed and/or the font size is increased. I already had to remove the "cy.wikipedia.org" line from the original because of this. Ironically, what Rhys did by increasing the font size, to mitigate problem 1, actually risks exacerbating problem 2.
Because of this, I suggest instead Prawf3, just a very simple adaptation of the status quo.
OK, sori am y sgwrs hir yn Saesneg - faswn i ddim wedi cael yr amser i chwilio am y geiriau hynny i gyd yn Gymraeg ar hyn o bryd. Alan06:23, 29 Ionawr 2009 (UTC)
P.S. rhwybeth i'w feddwl amdano yn y dyfodol, efallai... mae'r Wici Catalaneg wedi gwneud swydd ardderchog o leihai'r holl clutter sydd i'w weld ar y brif dudalen yn fy marn i. Ond mae'n ymddangos bod yn llawer o waith i'w gwblhau -- dyna lawer o amser nad yw ei dreulio i ysgrifennu erthyglau :) Alan06:31, 29 Ionawr 2009 (UTC)
Dwi'n credu fod yr un glanhawr yn werth ei wneud. Mae edrychiad yr hafan yn holl bwysig i cadw nifer o ymwelwyr. Ond does dim syniad gen i lle i ddechrau! Rhys07:32, 29 Ionawr 2009 (UTC)
Mae'n defnyddio "metaflwch" - gwela yma. Mae'n edrych yn reit cymhleth, a dw i ddim am chwarae gyda golygu "Common.css" fy hun, rhag ofn i mi ei "sgriwio i fyny". Y peth orau fasai gofyn i Adam os oes gen ti ddidordeb ynddo -- ef sy'n gwybod y mwyaf am y pethau hyn, dwi'n meddwl. (Rhaid i Llywelyn ddyfalu sut wn i mai dyn ydy Adam ;) Alan08:14, 29 Ionawr 2009 (UTC)
Rhag ofn i neb feddwl mod i'n geidwadwr (gyda g/c fach!), dw i ddim yn gwrthwynebu newid, ond ddim newid jyst er mwyn newid. Bues i'n edrych ar dudalen blaen wici's eraill hefyd am syniadau, a rhaid i mi ddweud yr un Catalaneg yr gorau o bell ffordd i mi weld. Mae'n cyd-fynd a sut mae gwefannau yn gyffredinol yn cael eu dylunio y ddyddiau hyn, sef, ychydig iawn o ddelweddau mawr, lliwiau meddal, a thabiau i gyrchu'r wefan ei hun. Mae yna gymaint o wybodaeth i'w gyfleu i ymwelydd newydd - boed yn gynnwys y wefan ei hun neu egluro sut mae cyfrannu, a rhaid rhoi blaenoriaeth i hyn
Er cymaint o wladgarwr ydw innau, fyddwn i ddim yn meddwl bod eisiau rhoi lle rhy amlwg i'r Ddraig Goch - Wici iaith Cymraeg yw hwn, nid Wici Cymreig.--Ben Bore09:12, 29 Ionawr 2009 (UTC)
Dwi'n cytuno Cdhaptomos. Fe ddywedodd Alan dro yn ol (uchod) "P.S. rhwybeth i'w feddwl amdano yn y dyfodol, efallai... mae'r Wici Catalaneg wedi gwneud swydd ardderchog o leihai'r holl clutter sydd i'w weld ar y brif dudalen yn fy marn i." Wel cymerwch gip ar fy nhudalen defnyddiwr i. Dwi'n meddwl y galla i ddefnyddio'r un bocsys a'r Wici Catalaneg i ail-wampio'r Hafan Gymraeg, gan ymgorffori tipyn bach o Hafan Rhys a Hafan Alan iddo (HEB y blicin Ddraig Goch!) Ei alw'n Hafan5, gyda hawl gan bawb i'w wnewid / addasu fel y gwelwch orau. Ac os nad yw ddigon da.... yna o leiaf rydym wedi dysgu yn yr ymdrech! Beth yw eich barn? Llywelyn200011:06, 28 Chwefror 2009 (UTC)
Cywirwch os rydw i'n anghywir, ond credaf fod brawddeg ar y dudalen flaen yn anghywir. Dylsai "yn Gymraeg" fod "yn y Gymraeg"? Cdhaptomos21:38, 11 Chwefror 2009 (UTC)
Rwy'n deall mai talfyriad cyffredin am "yn y Gymraeg" ydy "yn Gymraeg". Dyna pam nad yw hi "yng Nghymraeg" gyda threigliad trwynol. Mae "yn y Gymraeg" yn gywir hefyd, wrth gwrs. Ond dysgwr ydw i, felly alla i ddim addo bod hyn yn gywir! Alan21:50, 11 Chwefror 2009 (UTC)
P.S. y tro cyntaf pan feddyliais i am hyn, tybiais i mai ffurf adferfiol yw "yn Gymraeg". Basai hyn yn cyfrif am y treiglad meddal. Ond dwi wedi anghofio ble darllenais i'r esboniad uchod - rhywle ar y we, siwr o fod! Alan22:00, 11 Chwefror 2009 (UTC)
Mae f'athrawes Cymraeg yn dweud mae "yn y Gymraeg" yw'r ffordd ffurfiol o'i ddweud, ac bod "yn Gymraeg" yn fwy anffurfiol. Cdhaptomos11:00, 12 Chwefror 2009 (UTC)
Mewn ffordd, does dim llawer iawn o ots, ond mae'n iawn mai "yn y Gymraeg" yw'r ffurf ffurfiol (sy'n esbonio'r diffyg treiglad, fel mae Alan yn pwyntio allan uchod). Anatiomaros21:30, 12 Chwefror 2009 (UTC)
Ia, dyna roeddwn i'n trio esbonio yn fy ffordd drwsgl. 'Yn Gymraeg' < 'Yn [y] Gymraeg' yn hytrach na threiglad meddal afreolaidd. Mae'r ddwy ffurf yn "gywir" felly, ond rwyt ti'n iawn wrth ddweud fod 'yn Gymraeg' yn hollol dderbyniol erbyn hyn hefyd, ac yn wir gellid dadlau ei fod wedi disodli'r hen ffurf 'safonol' i raddau helaeth, yn enwedig ar lafar ond hefyd mewn print. Ond dydi hynny ddim yn wir am ffurfiau eraill fel 'yn tŷ' (ar lafar) yn lle 'yn y tŷ'. (ON tudalen 186 = rhan 4.65 yn llyfr Wynn Thomas, rhag ofn bod rhywun arall eisiau cael hyd i'r cyfeiriad). Anatiomaros21:04, 4 Medi 2009 (UTC)
Mae peth od wedi digwydd yn ddiweddar gyda'r hafan. Dangosir y teitl ("Hafan") uwchben y dudalen ar hyn o bryd, fel ar bob dudalen arall, ond roedd teitl yr hafan yn gudd yn y gorffenol. Ac mae'r "tab" ar frig y dudalen yn dweud "erthygl" nawr, ond roedd e'n dweud "hafan" cyn hynny. Cymharwch gyda phrif dudalennau'r wiciau eraill. Ond wela i mo newidiad a alla fod wedi'i achosi. Oes syniadau gan unrhywun am hyn? Diolch. Alan21:09, 12 Chwefror 2009 (UTC)
Rwyt ti'n iawn, Alan, ond dwi ddim yn gwybod be allem ni wneud amdano. Un o'r "glitches" hynny sy'n digwydd o bryd i'w gilydd, mae'n debyg. Gwell aros a gweld os ydy o'n dal yno fory? Anatiomaros21:25, 12 Chwefror 2009 (UTC)
Awgrymaf y geiriad / isdeitl canlynol: "y gwyddoniadur rhydd, am ddim a Chymraeg"; neu "y gwyddoniadur rhydd ac am ddim... Cymraeg". Fel ag y mae, mae'n amwys. Yn ail, dwi'n dal i obeithio yt cawn fflach bychan o liw! Llywelyn200023:04, 21 Mehefin 2009 (UTC)
Nid "rhydd ac am ddim" ond "rhad ac am ddim" ddylai fod yma i gyfieithu "free". "Rhydd" ydy 'libre' a "rhad ac am ddim" yw 'gratuit(e)', er fod y ddau yn cael eu cyfieithu'n "free" yn Saesneg ('liberated' a 'without charge'). Mae hyn yn gamgymeriad anffodus ond wela' i ddim sut i newid y geiriau fy hunan. Fyddai rhywun arall yn fodlon gwneud hynny? Gwybedyn15:00, 4 Awst 2009 (UTC)
Llygad barcud, Gwybedyn! Dwi'n cytuno fod angen newid hyn ond dwi ddim yn siwr mai "rhad ac am ddim" yw'r unig ystyr. H.y. mae'r Wicipedia yn "rhydd" yn yr ystyr ei fod yn annibynnol hefyd. Beth am "y gwyddoniadur Cymraeg annibynnol, rhad ac am ddim" neu rywbeth tebyg? Anatiomaros15:06, 4 Awst 2009 (UTC)
"Wikipedia is free to use without cost, but it is also free in the sense of having few restrictions on what may be modified or replicated elsewhere. The latter meaning is mandated by the Creative Commons Attribution/Share-Alike License, under which contributions site-wide are submitted. This meaning is thus more fundamental to the character of Wikipedia". Dyna fo i'r dim. Ond be ydy'r ffordd orau i gyfleu hynny yn fachog a chofiadwy yn Gymraeg? Anatiomaros23:05, 4 Awst 2009 (UTC)
Ie - mae'r ffordd mae ieithoedd eraill yn delio gyda'r broblem yn ddiddorol. Mae pob iaith arall, am a welaf i, wedi dewis un gair - 'wolna' yn Bwyleg, 'libre' yn Ffrangeg, 'freie' yn Almaeneg, 'otevrena' yn Tsieceg. Yr olaf yw'r mwyaf diddorol - "Agored". Eto, rhaid imi gyfaddef 'mod i wedi neidio i mewn i'r ddadl yma heb feddwl digon am y peth. Os taw 'libre, freie, etc.' yw'r ystyr i fod, falle nad yw 'rhydd' mor wael â hynny wedi'r cyfan! :) Gwybedyn16:25, 7 Awst 2009 (UTC)
Prosiect amlieithog i greu gwyddoniadur rhydd yw Wicipedia. Ailddechreuodd y Wicipedia Cymraeg ym mis Gorffennaf 2003 ar ôl i ni gael meddalwedd newydd. Rŵan mae gennym ni 280,412 o erthyglau yn y fersiwn Cymraeg. Gweler y dudalen gymorth a chwaraewch yn y pwll tywod i ddysgu sut ellwch chi olygu unrhyw erthygl rwan.
Diolch am eich amser a mwynhewch y wefan!
Dyma'r problemau yn fy marn:
Dydy'r meddalwedd newydd yn 2003 ddim o ddiddordeb mawr, ac mae'r nifer o erthyglau yn ailadrodd hysbysrwydd sy'n ymddangos uchaf.
Dydy'r cyfeiriadau at "chwarae yn y pwll tywod" ddim yn eglur iawn; dylai trefn y frawddeg rhoi rhagor o bwyslais ar y ffaith bod ymwelwyr yn gallu golygu unrhyw erthygl. O feddwl bod diffyg cryf o gyfranwyr, dwi'n meddwl mai gwastraff o gyfle i annog i bobl yn gryfach ddod yn gyfranwyr ydy'r paragraff cyntaf.
Pwyntiau teg, Alan. Dwi'n meddwl bod dy ailwampiad yn welliant aruthrol ar yr hyn sydd yno rwan ac yn llawer mwy tebygol o ddenu cyfranwyr newydd - ac yn sicr dyna sydd ei angen ar hyn o bryd! Anatiomaros15:46, 10 Hydref 2009 (UTC)
Diolch. Os dy neb yn gwrthwynebu, wna i ei wneud yn 'fyw', ond cyn hynny, allet ti (neu rywun) sicrhau nad oes camgymeriadau yn y Gymraeg os gweli di'n dda? Alan16:55, 10 Hydref 2009 (UTC)
Arbennig!!- Efallai gallwch ychwanegu hwn hefyd i annog pobl i ymuno- 'Mae Wicipedia angen eich cymorth chi. Ein hamcan yw creu gwyddoniadur ar-lein rhydd, yn y parth cyhoeddus, y gall pawb ei olygu' (ffeindiais y frawddeg ym mhorth y gymuned) Rhys Thomas21:46, 10 Hydref 2009 (UTC)
Dwi'n meddwl basai hynny yn ailadrodd llawer sy yno eisioes yn fy awgrymiad: y ffeithiau bod wicipedia: (a) yn wyddionadur rhydd, (b) ag angen eich cymorth (mae'n dweud "gallwch chi ein helpu"), (c) y gall pawb ei olygu (mae esboniad llawn am hynny). Rhaid i ni osgoi'r term "parth cyhoeddus"; mae amodau'n trwyddedi ni yn "rhydd" ond basai "parth cyhoeddus" yn golygu nad oes unrhyw amodau o gwbl, nad yw'n gywir. Am ychwanegu "ar-lein", basai'n cytuno mewn egwyddor ag ychwanegu hynny lle mae'n dweud "y gwyddoniadur rhydd", ond mae problem esthetig. Ar hyn o bryd, o leiaf yn fy mhorwr, mae gyda phob un o'r pedair llinell tua'r un hyd: (1) Croeso i wicipedia (2) Y gwyddionadur rhydd, am ddim a Chymraeg, (3) y blwch chwilio, (4) Mae gennym .... Piti byddai torri hynny trwy ychwanegu testun at un ohonynt. Alan06:27, 11 Hydref 2009 (UTC)
ON: oes unrhyw ymateb i fy nghestiwn am gamgymeriadau? Peidiwch ag anghofio mai dysgwr ydw i, a dwi'm am roi Cymraeg anghywir yn lleoliad amlycaf yr holl wefan! Alan06:36, 11 Hydref 2009 (UTC)
Gellid ei gwella, yn sicr, ond wyt ti wedi gweld rhai o'r tudalennau hafan eraill? Mewn cymhariaeth â llawer o rai y wicipediau llai mae un ni yn ddeniadol a chynhwysfawr. Pen y dudalen sy'n ddi-liw a diflas. Dwi'n hoffi cynllun Rhys, ac fel Cymro gwlatgar does gennyf ddim gwrthwynebiad i'r symbolau Cymreig chwaith, ond basa rhai yn dadlau mai argraffiad iaith Gymraeg o'r Wicipedia yw'r Wici Cymraeg a bod y symbolau cenedlaethol yn rhoi'r argraff ei fod yn un Cymreig; a dydi o ddim, fel y cyfryw. Ond mae'n lliwgar a deniadol, does dim dwywaith am hynny. O edrych ar rai o'r hafanau eraill dwi'n gweld fod gan rai o nhw le ar gyfer 'Delwedd y Diwrnod/Wythnos' gyda dolen syml i erthygl. Mae hynny'n ffordd hawd i ychwanegu sblash o liw a diddordeb. ON Os derbyniwn cynllun prawf Rhys dwi'n meddwl ei bod yn syniad da i roi testun Alan, neu addasiad ohono, yn lle'r hen un. Llywelyn, os wyt ti a Rhys yn teimlo fel gwneud y gwaith o'i newid does gen i ddim gwrthwynebiad iddo, fel arbrawf. Wedyn cawn ni weld beth fydd yr ymateb? Anatiomaros15:46, 16 Hydref 2009 (UTC)
Dwi'n cytuno efo Anatiomaros am y syniad 'Delwedd y diwrnod'. Bydd hyn yn rhoi fwy o liw i'r tudalen heb ei wneud yn rhy tacky! Bydd cael delwedd y diwrnod yn dangos i bobl fod yna lot o waith yn cael ei wneud yma ac mae pethau yn cael ei diweddaru'n gyson. Ond os yr ydym am gael delwedd y diwrnod- bydd angen llenwi blwch arall i fynnu efo rhywbeth hefyd! Rhys Thomas16:35, 16 Hydref 2009 (UTC)
I did not learn Welsh, it's too difficult. I can use a web site for translation, but only when I work indoors, not when I visit. Is okay if I speak English when local?
Newydd sylweddoli bod yna nawr 10,000 o ddefnyddwyr cofrestredig gan Wicipedia. A oes pwynt dweud hyn ar yr Hafan? Yn amlwg, nid yw'r mwyafrif helaeth ohonynt yn cyfrannu mewn unrhyw ffordd sylweddol at ysgrifennu neu olygu erthyglau, ac mae'n edrych braidd yn od ein bod yn tynnu sylw at y ffaith bod gennym bron hanner cymaint o "ddefnyddwyr" ag erthyglau. —Adam (sgwrs • cyfraniadau) 01:55, 19 Mawrth 2010 (UTC)
Ni ddylem arddangos y cyfrif yn mor amlwg. Sut wyddost ti nad ydy pobl wedi cofrestru heb fwriad i olygu ond jyst i geisio ennill y wobr ar gyfer y deng milfed ddefnyddiwr? Dweud y gwir09:23, 19 Mawrth 2010 (UTC)
Cytunaf fod y rhif yn gamarweiniol iawn. Mae'n cynnwys cyfrifon traws-wici - heb gyfraniadau yma gan amlaf a phethau fel cywirio dolenni rhyngwici fydd eu hunig gyfraniadau beth bynnag - a botiau a.y.y.b. yn ogystal â phobl sydd wedi creu cyfrif ond heb gyfrannu o gwbl. Mae 'na Rhestr defnyddwyr gweithgar ar gael ond mae hynny'n cynnwys botiau a "chyfrifon un golygiad" (h.y. cywiro rhyngwici a ballu) hefyd. Mae'r rhif 10,000 yn chwerthinllyd o uchel! Oes angen dangos hyn o gwbl os nad oes modd dangos y gwir rif? A gan fod y rhif go iawn mor isel ydym ni eisiau plastrio hynny dros ben yr Hafan beth bynnag? Anatiomaros18:26, 20 Mawrth 2010 (UTC)
Dwi 'di dileu'r cyfrif defnyddwyr. Cytuno bod dangos unrhyw nifer o ddefnyddwyr yn sefyllfa catch-22 (pob defnyddiwr cofrestredig yn rhy uchel, defnyddwyr gweithgar yn rhy isel). —Adam (sgwrs • cyfraniadau) 19:23, 21 Mawrth 2010 (UTC)
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article archif2, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses. ®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.