Llywelyn2000

/

Joined 30 Hydref 2007
"I'n daear, rhodd yw'n diwedd:
Rhodd enbyd bywyd yw'r bedd."

   Dalen Flaen        Sgwrs         Stwff defnyddiol        Lluniau      
Llywelyn2000
Gwybodaeth
   

CROESO! Fy enw i ydy Robin Llwyd ab Owain a dw i'n gweithio fel Rheolwr Cymru i Wiki UK ers 01 Mehefin 2013. Cysylltwch drwy fy wici-ebost (bar sgrolio ar y chwith). Dw i'n Weinyddwr ers 18 Gorffennaf 2008 ac yn Fiwrocrat ers 22 Rhagfyr 2011. Arswydus swyddi! Mae gen i dros 415,000 o olygiadau a hynny ar 72 o brosiectau.

Dyma englyn neu ddau i'ch croesawu:

Wrth Ddarllen Llythyrau Owain Glyn Dŵr ar y Traeth yn Harlech ar Kindle

    O hen archoll anarchydd, - o galon
        I galon o'r newydd,
      Ar y we yn Gymry rhydd:
      O'r llenor i'r darllenydd.


ac un i Olygydd Wicipedia:

    Yn organig - rho ganwaith - y diolch
        Sy'n blodeuo'n berffaith:
      Rho yn ôl i'r hen, hen iaith
      Ei thwf, ei nerth a'i hafiaith...

Hyd yma cafwyd 12,555,195 o olygiadau ar y wici Cymraeg gan 88,850 o olygyddion cofrestredig a miloedd rhagor o olygyddion nad ydynt wedi mewngofnodi. Ceir 16 o Weinyddwyr sy'n ceisio cadw trefn ar bethau, a hynny mor agored a phosibl. Roedd nifer y golygyddion gweithgar (dros 5 golygiad) y mis diwethaf yn 122.

Y person diwethaf i olygu'r dudalen hon oedd Llywelyn2000 a hynny ar 27-12-2023; dyddiad heddiw ydy: 19 Ebrill 2024. Mae'r wybodaeth byw a welir ar y dudalen hon yn cael ei chasglu drwy ddefnyddio côd wici; ceir rhestr ohonyn nhw yn fama.

Agor drysau

Dw i'n ymfalchio i mi gnocio drws, ac i'r drws hwnnw agor yn y sefydliadau canlynol: Llywodraeth Cymru, Sain (Recordiau), Cyfoeth Naturiol Cymru, Llyfrgell Genedlaethol, y Coleg Cymraeg, S4C a Chymdeithas Edward Llwyd, sydd i gyd yn rhoi eu deunydd yn agored ar Wicipedia a'i chwiorydd. Braf hefyd oedd eistedd rownd y bwrdd yn 2015 gyda'r Eisteddfod Genedlaethol a Menter Mon, a chreu prosiect 'Wici Mon'. Ac yna, ar y cyd, fe luniom gais i CBAC a gwelwyd golygu Wicipedia yn un o heriau'r Fagloriaeth.

Gyda dau o hoelion wyth y Wici, dyblais y nifer o erthyglau yn 2023 i 278,000. Hefyd yn 2002 creais grwp o Olygyddion Celtaidd a chafwyd Golygathon Celtaidd. Cafodd Cymru Ail Wobr yng Nghystadleuaeth Wici'r Holl Ddaear, gyda Brasil yn 3ydd a Rwsia'n bumed!

Sgwennais ychydig am ddatblygiad y Wicipedia Cymraeg (addysg) mewn blog, a chyflwynais rhai cerrig milltir yng Nghynhadledd y Cwlwm Celtaidd yn Aberystwyth. Ymhyfrydaf i gais gan wiciMon a minnau gael ei dderbyn gan CBAC, a daeth golygu Wicipedia'n rhan o'r Fagloriaeth Gymraeg.

Rhai erthyglau dw i wedi ceisio eu mireinio:

Cymru:



Os canfyddwch gangymeriad - cywiwch nhw, neu os fedrwch ehangu arnynt - gwnewch hynny! Mae mwy a mwy o bobl, ysgolion, cwmniau a cholegau yn defnyddio Wicipedia, bellach, felly ychwanegwch bwt ar eich ardal neu eich diddordeb!!! ...fel y cadwer i'r oesoedd a ddêl...

Fy nghyfraniadau

Ar y Wicipedia Cymraeg

Ystadegau
Gweithred Nifer
Golygwyd 98691
Golygwyd a dilewyd 100585
Dilewyd 2285
Tudalennau a adferwyd 28
Tudalennau wedi'u diogelu 33
Tudalennau a wrthddiogelwyd 0
Addaswyd y tudalennau a ddiogelwyd 13
Defnyddwyr a flociwyd 336
Defnyddwyr a wrthflociwyd 29
Newidiwyd hawliau defnyddwyr 41
Crewyd cyfrifon Defnyddwyr 2

traws-wici


Llywelyn2000

Ychydig o hwyl:

Llywelyn2000
Llun ohonof yn annerch Cynhadledd Wici Addysg yng Nghaerdydd yn 2013.
Llywelyn2000
Cliciwch yma i gael bathodyn!
Llywelyn2000
Cliciwch yma i gael bathodyn!
Llywelyn2000
Cliciwch yma i gael bathodyn!
Llywelyn2000
Cliciwch yma i gael bathodyn!
Llywelyn2000
9 Gorffennaf 2012, yn barod i gyfarfod Leighton Andrews yng Nghaerdydd.
Llywelyn2000
Trafod Wici gyda Carwyn Jones a Linda Tomos yn Eisteddfod 2012
Llywelyn2000
Croesawu Wicipediwr Preswyl newydd y Llyfrgell Genedlaethol: Jason Evans; Ionawr 2015.

Tags:

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

LTywyddCod QRChris Williams (academydd)Yr Ail Ryfel BydGorllewin RhisgaY Deuddeg ApostolGlöyn bywSobin a'r SmaeliaidPensiwnY Tŷ GwynCombeinteignheadSposa Nella Morte!Siot dwadMadeleine PauliacAmwythigDiwydiant llechi CymruGrandma's BoyDiodRhywogaeth mewn peryglOn The Little Big Horn Or Custer's Last StandDydd Iau DyrchafaelSefydliad WicimediaCandymanThe Night HorsemenCaernarfonElinor JonesGramadegSant PadrigRhyw tra'n sefyllDave SnowdenYsgrifau BeirniadolTabl cyfnodolBermudaIago I, brenin yr AlbanPafiliwn PontrhydfendigaidIn The Days of The Thundering HerdBugail Geifr LorraineÆgyptusCystadleuaeth Cân Eurovision 2021Rhestr enwau Cymraeg ar lefydd yn LloegrDohaBwrdeistref sirolSenedd y Deyrnas UnedigGramadeg Lingua Franca NovaTsieinaAsia20gEvan Roberts (gweinidog)GlawGwasanaeth cyhoeddus (cwmni)Safleoedd rhywY Weithred (ffilm)Angharad MairCaersallogWyau BenedictCombpyneApat Dapat, Dapat ApatTywysogion a Brenhinoedd CymruTaith y PererinHolmiwmThe Salton SeaLinczArgyfwng tai CymruKen OwensOceaniaRule BritanniaSyriaHebog y Gogledd🡆 More