Uned filwrol fechan, yn aml yr uned ymgyrchol barhaol leiaf ei maint o droedfilwyr yn y fyddin, yw sgwad.
Mae'n is-uned i'r platŵn, sydd fel arfer yn cynnwys tri neu bedwar o sgwadiau, a phob un yn cynnwys rhyw saith i 14 o filwyr dan orchymyn swyddog digomisiwn. Gallai sgwad gael ei rannu yn ddau neu dri mân-drefniant, megis "tîm tân" neu griw, sydd o esielon is (o bosib dan orchymyn corporal) ond nid yn uned ynddo'i hun. Yn ôl diffiniadau NATO o esielonau ar gyfer lluoedd y tir, trefniant sydd yn fwy na thîm ac yn llai nag adran fach (section) yw sgwad, a ddynodir gan symbol yr un ysmotyn (●).
Yn y Fyddin Brydeinig, defnyddir squad i gyfeirio at griw o filwyr dros dro a ffurfir at ddiben penodol, er enghraifft ymarferiad neu berwyl. Yr enw ar yr uned leiaf o filwyr, sydd yn cyfateb i'r sgwad mewn byddinoedd eraill, yw section. Mewn rhai byddinoedd eraill, mae section (adran fach) yn cynnwys 10 i 40 o filwyr.
Ym Myddin yr Unol Daleithiau, gall sgwad fod yn uned o naw troedfilwr, fel arfer wedi eu rhannu yn ddau dîm tân a dan orchymyn sarsiant, neu yn uned o saith marchfilwr arfogedig. Yng Nghorfflu Môr-filwyr yr Unol Daleithiau, mae sgwad yn cynnwys 13 môr-filwr, fel arfer wedi eu rhannu yn dri thîm tân.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Sgwad, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.