Gwrthdaro rhwng Ymerodraeth Rwsia a'r Ymerodraeth Otomanaidd oedd Rhyfel Rwsia a Thwrci (1877–78) a ymwnâi â chenedlaetholdebau newydd a chystadlu rhwng pwerau mawrion Ewrop dros y Balcanau.
Yr enw Tyrceg ar y rhyfel ydy 93 Harbi, sef "Rhyfel '93", sy'n cyfeirio at y flwyddyn 1293 yng nghalendr Islam.
Enghraifft o'r canlynol | gwrthdaro arfog |
---|---|
Dyddiad | 24 Ebrill 1877 |
Rhan o | Great Eastern Crisis |
Dechreuwyd | 24 Ebrill 1877 |
Daeth i ben | 3 Mawrth 1878 |
Lleoliad | Balcanau |
Yn cynnwys | Battle of Nikopol, Q4206987, Siege of Plevna, Battle of Shipka Pass |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Yn sgil Rhyfel y Crimea (1853–56), a welodd Twrci a'i chynghreiriaid yn drech na Rwsia, câi'r Ymerodraeth Otomanaidd ei derbyn i Gytgord Ewrop gan Gytundeb Paris (1856). Ildiodd Rwsia ei hawl i brotectoriaeth dros Gristnogion yn nhiriogaeth Otomanaidd, ar yr amod na chamdriniasent. Yr oedd tynged Cristnogion y Balcanau yn gyd-gyfrifoldeb yr holl Gytgord, ac achubai'r Rwsiaid ar y cyfle i gryfhau cysylltiadau gyda phobloedd Uniongred a Slafonaidd eraill, gan annog pan-Slafiaeth a chefnogi dyheadau'r cenedlaetholwyr Serbaidd a Bwlgaraidd yn enwedig. Yn ystod y cythrwfl ar draws y Balcanau a elwir "Argyfwng Mawr y Dwyrain", cafodd gwrthryfeloedd y Serbiaid yn Hertsegofina ym 1875 a'r Bwlgariaid ym 1876 eu gostegu'n llym gan y Tyrciaid, gan ladd nifer o sifiliaid. Cyhoeddodd tywysogaethau Serbia a Montenegro ryfel yn erbyn yr Otomaniaid ym Mehefin 1876. Ymfyddinodd gwirfoddolwyr Rwsiaidd yn barod i frwydro dros achos eu cyd-Slafiaid, a chyda lluoedd Serbia llwyddasant i yrru'r goresgynwyr Otomanaidd allan o'r dywysogaeth. Ymdrechodd Alexander M. Gorchakov, gweinidog tramor Rwsia, ddod â therfyn i'r argyfwng yn ddiplomyddol, ac i atal Rwsia rhag gael ei thynnu i mewn i ryfel arall. Chwalodd byddin Serbia erbyn diwedd yr haf, gan beri Rwsia i orfodi cadoediad ar Dwrci yn Hydref. Aeth Rwsia ati i fyddino i brofi ei bygythiad, ac yn Rhagfyr 1876 cyfarfu cenhadon y pwerau mawrion yng Nghaergystennin i gyflafareddu ateb i'r argyfwng. Gwrthododd Twrci y cyfaddawd a gynigwyd gan y gynhadledd, ac wedi i Awstria-Hwngari addo niwtraliaeth yn y Balcanau (ar ôl meddiannu Bosnia a Hertsegofina), penderfynodd y Tsar Alecsander II o'r diwedd ddatgan rhyel yn erbyn yr Otomaniaid, a hynny ar 24 Ebrill 1877.
Arweiniodd Rwsia glymblaid a oedd yn cynnwys Serbia, Montenegro, a Rwmania, a rodd ganiatâd i luoedd Rwsiaidd deithio dros ei thiriogaeth; datganodd Rwmania ei hannibyniaeth ar yr Otomaniaid ar 10 Mai 1877. Gobeithion y tsar oedd i ddatrys "Pwnc y Dwyrain" (sef chwalu'r Ymerodraeth Otomanaidd) mewn modd oedd yn ffafriol i fuddiannau Rwsia, gan gynnwys adennill ei cholledion tiriogaethol yn Rhyfel y Crimea, ailsefydlu ei thra-arglwyddiaeth ar y Môr Du, ac ehangu ei faes dylanwad dros holl genhedloedd Slafonaidd y Balcanau. Dechreuodd Rwsia frwydro ar ddau ffrynt mynyddig—y Balcanau a'r Cawcasws—i geisio gorfodi'r Tyrciaid i ledaenu eu lluoedd ac adnoddau, ac ennill y rhyfel ymhen deufis. Fodd bynnag, cafodd yr ymdrech Rwsiaidd ei llesteirio gan ddiffygion milwrol, gan gynnwys prinder milwyr a logisteg wael, a thrafferthion ar faes y gad.
Datblygodd yr ymgyrch yn y Balcanau mewn tri cham: yr ymdaith dros Rwmania i Fwlgaria, a barodd o Ebrill i Orffennaf 1877; y brwydro yng ngogledd Bwlgaria, gan gynnwys gwarchae ar Plevna hyd at Ragfyr 1877; a goresgyniad Thracia a'r cyrch llwyddiannus ar Gaer Hadrian yn Ionawr 1878. Ar 15 Chwefror 1878, cyrhaeddodd y Llynges Frenhinol Fôr Marmara, gan awgrymu y byddai'r Prydeinwyr yn ymyrryd ar ochr yr Otomaniaid i amddiffyn Caergystennin. Dechreuodd trafodaethau heddwch rhwng y ddwy ymerodraeth, ac ar 3 Mawrth 1878 arwyddwyd Cytundeb San Stefano, a gydnabyddai annibyniaeth Tywysogaeth Bwlgaria. Cyfarfu'r Cytgord ym Merlin yng Ngorffennaf 1878 i gytuno ar ffiniau newydd y Balcanau.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Rhyfel Rwsia a Thwrci (1877–78), which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.