Gwladwriaeth led-annibynnol sydd yn dibynnu ar wladwriaeth arall yw protectoriaeth neu ddiffynwlad.
Yn ôl y gyfraith ryngwladol gyfoes, mae'n dynodi sefyllfa o benarglwyddiaeth ac ymreolaeth: tiriogaeth ddibynnol ydy'r brotectoriaeth sydd yn meddu ar rywfaint o hunanlywodraeth, fel arfer dros faterion mewnwladol, tra bo'r ben-wladwriaeth yn rheoli cysylltiadau tramor y wlad ac yn ei hamddiffyn yn filwrol.
Weithiau, câi'r gair protectoriaeth ei neilltuo i ddisgrifio'r berthynas hon yn hytrach na'r wladwriaeth ei hun, gan gyfeirio at y wlad ddibynnol fel gwladwriaeth amddiffynedig a'r wlad oruchaf fel gwladwriaeth amddiffynnol.
Gellir rhannu protectoriaethau yn bedwar math:
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Protectoriaeth, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.