Actores o Gymraes yw Rebecca Harries (ganwyd 1 Medi 1966).
Mae'n adnabyddus am chwarae Maureen yn Pobol y Cwm a'r cymeriad Sali Mali yn y rhaglen deledu i blant.
Rebecca Harries | |
---|---|
Ganwyd | Rebecca Wynne Owen Harries 1 Medi 1966 Llandybïe |
Man preswyl | Caerdydd |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | actor |
Cafodd ei geni yn Llandybie yn Sir Gaerfyrddin. Roedd ei rhieni ill dau yn athrawon ymarfer corff. Bu'n byw yng Nghaerdydd ac roedd yn bwriadu symud yn ôl i'w ardal enedigol yn 2019.
Mae'n wyneb adnabyddus ar deledu yng Nghymru ar gynyrchiadau Cymraeg a Saesneg. Mae wedi ymddangos yn Belonging, Con Passionate a Teulu. Wedi cyfweliad yn 1994 cychwynnodd chwarae cymeriad Sali Mali yn rhaglen deledu S4C Caffi Sali Mali.
Yn 2016 roedd yn chwarae rhan y Ceidwadwr Megan Ashford yn y ddrama wleidyddol Byw Celwydd ar S4C. Yn 2019 roedd ganddi rhan yn y ddrama Un Bore Mercher.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Rebecca Harries, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.