Yr iaith wreiddiol, neu grwp o dafodieithoedd efallai, y tybir gan ieithegwyr y tarddodd Indo-Ewropeg a'r ieithoedd Indo-Ewropeaidd ohoni yw Proto-Indo-Ewropeg.
Does dim cofnodion o'r iaith dybiedig hon wedi goroesi; mae'r holl wybodaeth am Broto-Indo-Ewropeg wedi cael ei hailadeiladu o'i merch ieithoedd fel Groeg, Lladin, Sansgrit, a Gotheg.
Yn ôl damcaniaeth Gurgan, roedd Proto-Indo-Ewropeg yn cael ei siarad ar y stepdiroedd i'r gogledd o'r Môr Du hyd at y 5ed fileniwm CC, er bod amcangyfrifon eraill yn gosod y dyddiad hwnnw mor gynnar â'r 10fed fileniwm CC.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Proto-Indo-Ewropeg, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.