Sant Cymreig o ddiwedd y 5g oedd Paulinus Aurelianus, a fu'n weithgar yn bennaf yn Llydaw.
Ystyrir ef yn un o Saith Sant-sefydlydd Llydaw.
Paulinus Aurelianus | |
---|---|
Ganwyd | 492 Teyrnas Morgannwg |
Bu farw | 573 enez-Vaz |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | offeiriad |
Swydd | esgob |
Dydd gŵyl | 12 Mawrth, 10 Hydref |
Ysgrifennwyd buchedd iddo yn 884 gan Wrmonoc, mynach o Landevenneg yn Llydaw. Dywedir ei fod yn fab i bendefig o'r enw Perphirius, a gysylltir a Phenychen ym Morgannwg. Bu'n astudio yn ysgol Illtud yn Llanilltud Fawr, lle roedd Dewi, Samson a Gildas yn astudio ar yr un pryd. Aeth i fyw fel meudwy yn Llanddeusant, Sir Gaerfyrddin pan oedd yn 16 oed, yna aeth i "Gaer Banhed" yng Nghernyw, ac yn nes ymlaen symudodd i Lydaw.
Ef a sefydlodd esgobaeth Kastell-Paol (Ffrangeg: St. Pol-de-Léon), a bu'n gweithio yn Llydaw hyd ei farwolaeth ar Enez-Vaz. Mae ei hanes wedi'i gymysgu i raddau a hanes "Paulinus" arall, Peulin, a chred rhai ysgolheigion mai'r un yw'r ddau. Ymddengys, fodd bynnag, fod Paulinus Aurelianus ychydig yn iau na Pheulin.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Paulinus Aurelianus, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.