Pangaea neu Pangea (o Παγγαία, Hen Roeg am 'cyfanfyd' neu 'byd cyfan') yw'r enw a roddir ar yr uwchgyfandir y credir iddo fodoli yn ystod y cyfnodau Paleosoïg a Mesosoïg, cyn i broses tectoneg platiau wahanu'r cyfandiroedd cyfansoddol i'w dosbarthiad presennol.
Ymddengys mai'r Almaenwr Alfred Wegener, prif ddamcaniaethydd damcaniaeth llifo cyfandirol, a ddefnyddiodd yr enw am y tro cyntaf, yn 1920.
Yn strwythurol, credir mai ehangdir anferth ag iddi siap cryman a ymledodd dros y Gyhydedd oedd Pangaea. Enwir y dyfroedd y credir iddynt fod yn amgaeëdig yn y gryman honno Môr Tethys. Oherwydd maint anferth Pangaea, ymddengys mai sych iawn oedd ei ardaloedd mewnol oherwydd diffyg glaw. Yn ddamcaniaethol, byddai'r uwchgyfandir mawr hwnnw yn galluogi anifeiliad y tir i fudo heb rwystr yr holl ffordd o Begwn y De i Begwn y Gogledd.
Gelwir y cefnfor anferth a amgylchynnai uwchgyfandir Pangaea ar un adeg yn Banthalassa.
Credir i Bangaea dorri i fyny tua 180 miliwn o flynyddoedd yn ôl (mya) yn ystod y cyfnod Jwrasig, yn gyntaf yn ddau uwchgyfandir (Gondwana i'r de a Laurasia i'r gogledd), ac yna yn gyfandiroedd yn yr ystyr sy'n gyfarwydd i ni heddiw.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Pangaea, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.