Llestr sy'n cael ei ddefnyddio i goginio, berwi, neu doddi dros dân agored yw pair neu crochan.
Mewn chwedloniaeth Geltaidd, a rhai ffurfiau o Wica, mae'r pair yn cael ei gysylltu â'r dduwies Ceridwen. Yn hanes Taliesin, mae'r pair yn ffynhonnell ysbrydoliaeth a gwybodaeth. Mae mytholeg Gymreig hefyd yn sôn am beiriau a oedd yn ddefnyddiol i fyddinoedd mewn brwydrau. Yn ail gainc y Mabinogi, yn hanes Branwen, Ferch Llŷr, mae'r Pair Dadeni yn bair hudolus y gellid gosod rhyfelwyr marw ynddo a thrwy hynny ddod â hwy yn ôl yn fyw, ond heb fod ganddynt y gallu i siarad. Tybiwyd nad oedd ganddynt eneidiau. Gallai'r rhyfelwyr hyn ddychwelyd i'r frwydr nes iddynt gael eu lladd eto. Yn y chwedl, mae Efnisien yn ei dinistrio trwy ddringo i mewn iddi yn ystod brwydr, a'i chwalu'n ddarnau.
Ceir un o'r enghreifftiau cynharaf o'r gair, wedi'i sillafu fel 'peyr', yn Llyfr Iorwerth o'r 13g. Defnyddir yr ymadrodd bod rhywun 'yn y pair' i gyfleu profedigaeth neu helyntion. Mae'r ymadrodd 'pair cystudd' yn cyfleu yr un ystyr.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Pair, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.