Cylch cerrig yng nghymuned Llanfor, Gwynedd, oedd Pabell Llywarch Hen.
Fe'i gysylltir â Llywarch Hen, aelod o deulu brenhinol Rheged yn yr Hen Ogledd a ddaeth yn wrthrych y gadwyn o englynion a luniwyd ym Mhowys a alwyd gan Syr Ifor Williams yn "Canu Llywarch Hen". Mae'r cylch cerrig wedi diflannu erbyn hyn.
"Pabell Llywarch Hen" oedd yr enw traddodiadol ar gylch cerrig cynhanesyddol ger eglwys Llanfor, tua milltir i'r dwyrain o dref y Bala. Mae'r cyfeiriad cynharach ato sydd ar glawr heddiw yn dyddio o'r 17g. Yn ail gyfrol ei lawysgrif Parochialia, cofnoda'r hynafiaethydd Edward Lhuyd:
Yn ei lyfr Tours in Wales (1778-81), cofnoda Thomas Pennant y traddodiad bod Llywarch Hen wedi codi "pabell" ger eglwys Llanfor y noson ar ôl brwydr rhwng llu Llywarch a'r Saeson ar lethrau Rhiwaedog lle lladdwyd ei fab hynaf ac olaf. Dywed Pennant mai yno y cyfansoddodd Llywarch ei englynion marwnad iddo.
Nid oes sicrwydd am union leoliad y cylch cerrig erbyn hyn. Mewn llythyr o 1745/6 mae'r ysgwier lleol William Price o Riwlas yn cyfeirio at gylch o gerrig mawr ger yr eglwys gyda mynedfa i gyfeiriad y dwyrain. Mae'n bosibl bod rhai o'r cerrig wedi cael eu defnyddio fel pyst giatau gan ffermwyr lleol.
Fel rhan o'i ymchwil am ei gyfrol Canu Llywarch Hen (1935), aeth Ifor Williams i Lanfor i holi pobl lleol am y cylch cerrig a hefyd am safle mwnt 'Castell Llywarch', ond methodd a chael gafael ar neb a wyddai ble'r oeddynt.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Pabell Llywarch Hen, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.