Edward Lhuyd: Botanegwr, daearegwr, hynafiaethydd, ac ieithegwr

Roedd Edward Lhuyd (hefyd Llwyd a Lloyd; 1660 – 30 Mehefin 1709) yn naturiaethwr, botanegwr, ieithydd, daearegydd a hynafiaethydd Cymreig.

Ef ysgrifennodd y disgrifiad gwyddonol cyntaf o'r deinosor Rutellum implicatum. Etholwyd Lhuyd yn aelod o'r Gymdeithas Frenhinol, flwyddyn cyn ei farwolaeth ym 1709. Enwyd ry lili a ddarganfuasai yn tyfu ar yr Wyddfa am gyfnod yn Lloydia serotina (a adnabyddir bellach fel Gagea serotina) ar ei ôl, yn ogystal â Chymdeithas Edward Llwyd, sef cymdeithas naturiaethol genedlaethol Cymru.

Edward Lhuyd
Edward Lhuyd: Bywgraffiad, Englyn coffhád, Llyfryddiaeth
Penddelw Edward Lhuyd (gan John Meirion Morris, 2001) y tu allan i Ganolfan Uwchefrydau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru, Aberystwyth
Ganwyd1660 Edit this on Wikidata
Loppington Edit this on Wikidata
Bu farw30 Mehefin 1709 Edit this on Wikidata
Rhydychen Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTeyrnas Prydain Fawr Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethnaturiaethydd, curadur, daearyddwr, botanegydd, ieithydd Edit this on Wikidata
Swyddcyfarwyddwr amgueddfa Edit this on Wikidata
Adnabyddus amArchæologia Britannica, Transcript of Lhuyd's Parochialia, &c., V. An account of very large stones voided per urethram. In a letter from Mr Edw. Lhwyd, keeper of the Ashmolean Museum in Oxford, to Dr Hans Sloane, S. R. S. Edit this on Wikidata
TadEdward Lloyd Edit this on Wikidata
Gwobr/auCymrawd y Gymdeithas Frenhinol Edit this on Wikidata

Bywgraffiad

Ganwyd Edward Lhuyd yn fab gordderch i Edward Lloyd o Lanforda, ger Croesoswallt, aelod o deulu bonheddig y Llwydiaid, a pherthynas bell iddo, Bridget Pryse o Glanffraid, oedd yn perthyn i un o ganghennau teulu Gogerddan. Magwyd Lhuyd ym mhlwyf Lappington yn Swydd Amwythig. Fe'i addysgwyd yn Ysgol Croesoswallt ac, o 1682 ymlaen, yng Ngholeg yr Iesu, Rhydychen, er iddo adael y coleg cyn iddo raddio. Ym 1684 penodwyd ef yn gynorthwyydd i Robert Plot fel Ceidwad Amgueddfa'r Ashmolean yn Rhydychen; bu yntau yn ddiweddarach yn Geidwad yr amgueddfa honno o 1690 hyd 1709.

Teithiai Lhuyd ar hyd a lled Prydain yn ei waith. Aeth ar daith i Eryri ym 1688 er mwyn cofnodi planhigion lleol y fro ar gyfer Synopsis Methodica Stirpium Britannicorum, llyfr gan y botanegwr John Ray. Yna, wedi 1697, cychwynnodd Lhuyd ar daith o gwmpas pob sir yng Nghymru, yn ogystal â'r Alban, Iwerddon, Cernyw a Llydaw. Argraffwyd Lithophylacii Britannici Ichnographia, ei gatalog o ffosiliaid, a gasglwyd o amgylch ardal Rhydychen yn bennaf, ym 1699 gydag ychydig o gymorth ariannol gan Isaac Newton. Ym 1707 cyhoeddodd Lhuyd y gyfrol Glossography, y gyfrol gyntaf o'r Archaeologia Britannica arfaethedig a'r unig un a welodd olau dydd, sy'n astudiaeth o iaith a diwylliant y gwledydd Celtaidd ar seiliau gwyddonol. Roedd y llyfr yn garreg filltir bwysig yn y meysydd hynny; man cychwyn yr astudiaeth fodern o'r ieithoedd Celtaidd.

Enwyd cymdeithas naturiaethwyr Cymru, sef Cymdeithas Edward Llwyd ar ei ôl.

Englyn coffhád

    Meini nadd y mynyddoedd - a gwaliau
      Ac olion dinasoedd
    A dail, dy fyfyrdod oedd
    A hanesion hen oesoedd.
          John Morgan (c. 1688 - c. 1734)

Llyfryddiaeth

Gweler hefyd

Cyfeiriadau

Tags:

Edward Lhuyd BywgraffiadEdward Lhuyd Englyn coffhádEdward Lhuyd LlyfryddiaethEdward Lhuyd Gweler hefydEdward Lhuyd CyfeiriadauEdward Lhuyd1660170930 MehefinBotanegCymdeithas Edward LlwydDaearegDeinosorLili'r WyddfaNaturY Gymdeithas FrenhinolYr Wyddfa

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

1185Siôn JobbinsRock and Roll Hall of FameStumogSorgwm deuliwRwsiaYnys Gifftan19eg ganrifDeallusrwydd artiffisialAaron RamseyCorsen (offeryn)Cannon For CordobaKyivY GododdinİzmirHTMLGalawegErwainHarmonicaTorontoElizabeth TaylorDavid Roberts (Dewi Havhesp)UndduwiaethRMS TitanicYswiriantLlywelyn FawrCedorEagle EyeBrasilThe Road Not TakenGwyddoniadurFfilm llawn cyffroGwobr Nobel am CemegDafydd Dafis (actor)Spring SilkwormsDillagiAberystwythGwasanaeth cyhoeddus (cwmni)Galwedigaeth2024Alhed LarsenDiwydiant llechi CymruWhatsAppAnna VlasovaWiciadurFleur de LysCarles PuigdemontCalsugnoCipinY Tŷ GwynDe CoreaThe Price of FreeMy MistressFfloridaMoscfaCleopatra22Isabel IceStorïau TramorYsgrifau BeirniadolLove Kiya Aur Lag GayiRhif Llyfr Safonol RhyngwladolMediBrimonidinSwahiliEginegBartholomew RobertsBeach Babes From BeyondBarbie & Her Sisters in The Great Puppy AdventureAmser haf🡆 More