Cyn chwaraewr pêl-droed Cymreig yw Owain Tudur Jones (ganwyd 15 Hydref 1984).
Chwaraeodd i Dinas Abertawe, Norwich City, Inverness Caledonian Thistle, Hibernian a Falkirk yn ogystal ag ennill 7 cap dros dîm cenedlaethol Cymru.
Gwybodaeth Bersonol | |||
---|---|---|---|
Enw llawn | Owain Tudur Jones | ||
Dyddiad geni | 15 Hydref 1984 | ||
Man geni | Bangor, Cymru | ||
Taldra | 1.91m | ||
Safle | Canol Cae | ||
Y Clwb | |||
Clwb presennol | Hibernian | ||
Rhif | 17 | ||
Gyrfa Lawn* | |||
Blwyddyn | Tîm | Ymdd† | (Gôl)† |
2000–2001 | Porthmadog | 10 | (0) |
2001–2005 | Dinas Bangor | 96 | (24) |
2005–2009 | Dinas Abertawe | 44 | (3) |
2009 | → Swindon Town (benthyg) | 11 | (1) |
2009–2011 | Norwich City | 5 | (1) |
2010 | → Yeovil Town (benthyg) | 6 | (1) |
2010 | → Yeovil Town (benthyg) | 14 | (1) |
2011 | → Brentford (benthyg) | 6 | (0) |
2011–2013 | Inverness Caledonian Thistle | 48 | (2) |
2013–2014 | Hibernian | 14 | (0) |
2014-2015 | Falkirk | 4 | (0) |
Tîm Cenedlaethol‡ | |||
2005–2006 | Cymru dan 21 | 3 | (0) |
2008– | Cymru | 7 | (0) |
* Cyfrifir yn unig: ymddangosiadau i Glybiau fel oedolyn a goliau domestg a sgoriwyd. sy'n gywir ar 10:17, 15 Medi 2014 (UTC). † Ymddangosiadau (Goliau). |
Ei daid yw Geraint V. Jones.
Ymunodd Tudur Jones â Dinas Bangor yn Uwch Gynghrair Cymru o glwb Porthmadog yn y Gynghrair Undebol yn 2001 ac yn ei bedwar tymor gyda Bangor chwaraeodd yn rownd derfynol Cwpan Cymru yn 2002 ac yn Nhlws Intertoto yn 2002 yn erbyn Gloria Bistrita o Romania.
Wedi cyfnod ar brawf gyda Dinas Abertawe yn ystod haf 2005, ymunodd Jones â'r clwb am £5,000. Yn ystod ei dymor llawn cyntaf fel chwaraewr proffesiynol, gwnaeth 21 o ymddangosiadau a sgoriodd dair gôl. Llwyddodd hefyd i wneud ei ymddangosiad cyntaf i dîm dan-21 Cymru. Ar ôl pedair mlynedd gyda'r Swans, a chyfnod ar fenthyg â Swindon Town yn 2008/09, symudodd Jones i Norwich City am ffi oddeutu £250,000.
Gwnaeth Jones ei ymddangosiad cyntaf yn y golled 7-1 yn erbyn Colchester ar ddiwrnod agoriadol tymor 2009/10 a sgoriodd ei gôl gyntaf i'r clwb ar 18 Awst 2009 mewn buddugoliaeth 2-1 dros Brentford.
Methodd a sicrhau ei le yn rheolaidd yn nhîm Norwich City ac ar ôl cyfnodau ar fenthyg gyda Yeovil Town a Brentford, symudodd i'r Alban ac Inverness Caledonian Thistle yn 2011.
Gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf i Inverness mewn colled 1-0 yn erbyn Hibs ond yn gynnar wedi'r gêm gyntaf, dioddefodd anaf i'w ben-glîn fyddai'n golygu ei fod angen llawdriniaeth. Collodd chwe mis o'r tymor wrth wella o'i anaf ond sicrhaodd estyniad i'w gytundeb ym mis Mehefin 2012.
Ym mis Mai 2013, symudodd i Gaeredin er mwyn ymuno â Hibernian ond ar ôl cael ei ryddhau gan Hibs, ymunodd â Falkirk ym mis Medi 2014.
Ar 6 Mawrth 2015, wedi brwydro yn erbyn anaf arall, cyhoeddodd Jones ei fod yn ymddeol o bêl-droed.
Gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf i Gymru mewn gêm gyfeillgar yn erbyn Lwcsembwrg ym mis Mai 2008.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Owain Tudur Jones, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.