C.p.d. Porthmadog

Clwb sy'n chwarae yn y Gynghrair Undebol ydy Clwb Pêl Droed Porthmadog (Saesneg: Porthmadog Football Club); mae wedi'i leoli ym Mhorthmadog, Gwynedd.

C.P.D. Porthmadog
C.p.d. Porthmadog
Enw llawn Clwb Pêl-droed Porthmadog
Llysenw(au) Port
Sefydlwyd 1884
Maes Y Traeth
Cadeirydd Baner Cymru Phil Jones
Rheolwr Baner Cymru Craig Papirnyk
Cynghrair D2
2022-23 11.
C.p.d. Porthmadog
C.p.d. Porthmadog
C.p.d. Porthmadog
C.p.d. Porthmadog
C.p.d. Porthmadog
C.p.d. Porthmadog
C.p.d. Porthmadog
C.p.d. Porthmadog
C.p.d. Porthmadog
C.p.d. Porthmadog
C.p.d. Porthmadog
C.p.d. Porthmadog
C.p.d. Porthmadog

Ffurfiwyd Clwb Pêl Droed Porthmadog yn 1884, sydd yn ei wneud yn un o glybiau hynaf Cymru. Yn 1900 ymunodd y clwb â Chynghrair Gogledd Cymru ac fe enillodd y tîm y gynghrair hon yn 1902/03.

Roedd y 1950au, 1960au a'r 1970au yn gyfnod llwyddiannus iawn i Port. Enillwyd Cwpan Amatur Cymru yn 1955/56 ac 1956/57. Ar ôl colli'r statws amatur, ac arwyddo Mel Charles, daeth llwyddiant i'r Traeth unwaith eto. Yn 1966, chwaraewyd yn erbyn Abertawe yng Nghwpan Cymru ac, yn yr ail-chwarae ar y Vetch, denwyd torf mwyaf y tymor i Abertawe - 10,941. Enillwyd Cynghrair Cymru (Gogledd) ar 5 achlysur mewn 9 mlynedd.

Bu'n rhaid aros nes 1989/90 am bencampwriaeth nesaf Port, pan enillwyd y Daily Post Welsh Alliance. Roedd y llwyddiant hwn yn ddigon i hawlio lle Port fel aelodau gwreiddiol o Gynghrair y Cynghrair Undebol yn 1990, ac yn 1992 daeth Port yn aelodau gwreiddiol o Gynghrair Cymru (Cynghrair Konica ar y pryd).

Er fod gwaith da wedi ei gwblhau i sicrhau fod y stadiwm yn cyrraedd y safonau angenrheidiol, ei chael hi'n anodd wnaeth Port ar y cae yn ystod eu tymor cyntaf. Serch hynny, helpodd rhediad gwych, ar ddiwedd y tymor, i newid pethau; enillodd Meilir Owen wobr rheolwr y mis a gorffennodd Port yn y nawfed safle. Roedd llawer o'r diolch, am y llwyddiant hwyr, i ychwanegiad yr ymosodwr Dave Taylor i'r garfan wrth iddo rwydo'n rheolaidd. Aeth Dave ymlaen, yn ei ail dymor, i fod yn brif sgoriwr y Gynghrair a hefyd Ewrop. Yn ystod ei gyfnod yn y clwb, sgoriodd 62 o goliau mewn 66 gêm.

Er i Marc Lloyd-Williams a Dave Taylor rwydo 70 o goliau yn nhymor 1993-4, anghyson iawn fu canlyniadau'r clwb wrth iddynt orffen yn yr 11eg safle. Llwyddodd Port, serch hynny, i dorri record arall, sef torf ucha'r Gynghrair Cenedlaethol. Wrth i Fangor wthio am y gynghrair, daeth torf o 2,900 i weld y gêm holl-bwysig hon. Ar y noson, enillodd Bangor o 2-0 ac felly ennill y Gynghrair a chael yr hawl i gystadlu yn Ewrop.

Dechreuwyd y trydydd tymor gyda rheolwr newydd. Gwnaed y penderfyniad syfrdanol i ddi-swyddo Meilir Owen fel rheolwr y clwb. Daeth cyn chwaraewr Cymru, Ian Edwards i gymryd yr awenau ond, ar ôl dechrau da, yr un oedd ei dynged o ar ôl disgyn o'r pedwerydd safle. Aeth pethau o ddrwg i waeth ar ôl i Mickey Thomas, cyn chwaraewr Manchester Utd, Wrecsam a Chymru, gymryd drosodd. Bu bron i'w dîm costus fynd i lawr ond, gyda chymorth Colin Hawkins, fe lwyddodd y tîm i aros i fyny o drwch blewyn.

Dechreuodd y pedwerydd tymor gyda newid arall yn swydd y rheolwr. Cafodd Colin Hawkins ei ddyrchafu i swydd y rheolwr. Ar y cae roedd hwn yn dymor di-gynnwrf. Ond, ni ellir dweud hyn am y digwyddiadau oddi-ar y cae. Bu bron i'r trafferthion ariannol dybryd olygu diwedd y clwb ond, diolch i waith caled y cyfarwyddwyr, cafodd y clwb ei ail lansio fel cwmni cyfyngedig. Codwyd bron i £10,000 o bunnoedd drwy werthu cyfrandaliadau, a daeth pres ychwanegol o gemau cyfeillgar, fel rhai yn erbyn Blackburn Rovers F.C. a Thim sêr S4C.

Yn 1996/97, gyda'r sefyllfa ariannol yn llawer gwell, cafodd y tîm ddechrau anhygoel o dda i'r tymor. Ni gollwyd gêm gartref tan y flwyddyn newydd a, phan ddaeth y Bari i'r Traeth, roedd yn gêm rhwng ail a phedwerydd, gyda dim ond gwahaniaeth goliau yn ei gwahanu. Un o'r chwaraewyr, a gyfrannodd fwyaf at y dechreuad hwn, oedd Paul Roberts. Cyn gadael y clwb i ymuno â Wrecsam am £10,000, roedd wedi chwarae i dim dan-21 Cymru a hefyd yn brif sgoriwr y gynghrair. Yn wir, daeth ei gyfle i chwarae i'r Cymry ifanc, ar ôl iddo helpu Port i'w curo mewn gêm gyfeillgar [Port 1:0 Cymru U21].

Ar ôl ymadawiad Paul, newidiodd tymor Port yn gyfan gwbl, wrth i'r tîm orffen y tymor yn y degfed safle. Gorffennwyd y tymor gyda buddugoliaeth dros Gaernarfon yn rownd derfynol Cwpan Her Arfordir y Gogledd, gyda Port yn trechu Bangor a Bae Colwyn mewn rowndiau cynharach.

Yn 1997/98, daeth diwedd i gyfnod Port yng Nghynghrair Cymru yn dilyn rhediad gwael at ddiwedd y tymor. Yn rhyfeddol, wrth ystyried rhai o’r penderfyniadau a gymerwyd ers hynny, collodd Port eu safle er iddynt orffen yn 4ydd o’r gwaelod.

Yn 1998/99, yn ôl yn y Cynghrair Undebol, aeth y tymor ar chwâl yn dilyn y penderfyniad na fyddai Port yn cael eu dyrchafu oherwydd diffyg cyfleusterau. Gorffennodd Port yng nghanol y tabl ond llwyddwyd i gipio Cwpan y Gynghrair. Diolch i rediad o fuddugoliaethau ar ôl i Viv Williams godi'r awenau, yn dilyn ymadawiad Colin Hawkins, gorffennodd y clwb yn bumed yn 1999-2000.

Wrth i Viv ac Osian Roberts adeiladu tîm newydd, codwyd gobeithion y cefnogwyr fod y dyddiau da ar fin dychwelyd i'r Traeth. A dyna sut y bu, wrth i Port gael un o’r tymhorau gorau yn eu hanes yn 2002-03. Enillwyd pob gêm gartref trwy gydol y tymor, gyda’r unig ddwy gêm iddynt golli yn dod ar ôl iddynt sicrhau dyrchafiad. Dyrchafwyd Port i Uwch Gynghrair Cymru gyda mantais o 19 pwynt ar frig y Gynghrair Undebol. Aeth Port ymlaen i ychwanegu dwy gwpan (Cwpan Her y Gogledd a Chwpan y Gynghrair) at eu llwyddiannau.

Gyda Viv Williams ac Osian Roberts yn ffurfio’r bartneriaeth rheoli a hyfforddi, camodd Porthmadog yn ôl i Uwch Gynghrair Cymru gan orffen yn 12fed ddigon parchus yn 2003-04. Yn y tri tymor canlynol, gorffen yn yr 11eg oedd yr hanes ac yn 2006-07, hefyd, cafwyd buddugoliaethau nodedig mewn tri chwpan gan gyrraedd rownd gyn derfynol Cwpan y Gynghrair. Osian Roberts erbyn hyn oedd y rheolwr gyda Viv Williams yn is-reolwr. Am y rhan fwyaf o’r tymor, roedd cwmwl du cosb drom ac annheg y Gymdeithas Bêl Droed, am sylwadau hiliol gan un unigolyn, yn hongian uwchben y clwb. Ni ddaeth y saga hwn i ben tan Fehefin 2007 wedi’r clwb fynd â’r achos at dribiwnlys annibynnol ac o’r diwedd sicrhawyd tegwch a chyfiawnder.

Ond ar ôl tymhorau llwyddiannus, daeth cyfnod Viv ac Osian wrth y llyw i ben yn ddisymwth ar ddiwedd 2006-07 gyda ymadawiad Osian i swydd Cyfarwyddwr Hyfforddi gyda’r Gymdeithas Bêl Droed ac ymddiswyddodd Viv yr un pryd ar ôl 7 mlynedd gyda’r clwb. Penodwyd cyn chwaraewr Manchester United, Clayton Blackmore, yn rheolwr ar gyfer 2007-08. Ond byr bu arhosiad Blackmore ar ôl cychwyn trychinebus i’r tymor. Troi at Viv Williams unwaith eto wnaeth y clwb a gyda chymorth Alan Bickerstaff llwyddwyd i gadw’r clwb yn yr Uwch Gynghrair gyda buddugoliaeth ar ddiwrnod olaf y tymor. Ym mis Mai 2008, penodwyd Paul Whelan yn rheolwr i olynu Viv Williams.

Yn dilyn rhediad gwael rhwng mis Rhagfyr 2008 a mis Chwefror 2009, lle collodd Port 7 gêm allan o wyth, cafodd Paul Whelan ei ddi-swyddo a chafodd cyn reolwr Aberystwyth, Caerfyrddin a'r Trallwng Tomi Morgan ei benodi'n rheolwr newydd.

Cyfeiriadau

Dolenni allanol

Cynghrair Undebol, 2018-19

Airbus UK | Bangor | Bwcle | Cegidfa | Conwy | Dinbych | Gresffordd | Hotspur Caergybi |
Llanrhae| Penrhyncoch | Porthmadog | Prestatyn | Rhuthun | Treffynnon Y Fflint | Y Rhyl

Tags:

Cynghrair UndebolGwyneddPorthmadogSaesneg

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

WhatsAppSandusky County, OhioRichard FitzAlan, 11eg Iarll ArundelJeremy BenthamHarri PotterXHamsterLloegrGwobr ErasmusParc Coffa YnysangharadThe BeatlesEfrog Newydd (talaith)International Standard Name IdentifierNevadaBoneddigeiddioErie County, OhioAmarillo, TexasPickaway County, OhioY GorllewinY Forwyn FairChristiane KubrickBaxter County, ArkansasThe SimpsonsPerkins County, NebraskaMET-ArtHafanMuskingum County, OhioCalsugnoClifford Allen, Barwn 1af Allen o HurtwoodFfisegAmericanwyr SeisnigChatham Township, New JerseyJohn DonneFideo ar alwButler County, OhioDelaware County, OhioTwo For The MoneyJeff DunhamKearney County, NebraskaRhylOedraniaethMulfranHappiness AheadMadeiraCOVID-19FeakleNatalie PortmanSchleswig-HolsteinJulian Cayo-EvansFreedom StrikeRoxbury Township, New JerseyAmldduwiaethTsieciaGwyddoniadurPerthnasedd cyffredinolMehandi Ban Gai KhoonToo Colourful For The LeagueMetadataProtestiadau Sgwâr Tiananmen (1989)Yulia TymoshenkoAdnabyddwr gwrthrychau digidolCraighead County, ArkansasMerrick County, NebraskaClementina Carneiro de MouraCharmion Von WiegandJuventus F.C.Philip AudinetGeorgia (talaith UDA)The DoorsMaria ObrembaYr Almaen NatsïaiddWilliams County, Ohio11 Chwefror🡆 More