Oneplus: Cynhyrchydd ffonau symudol ac ategolion o Tsieina

Mae OnePlus yn wneuthurwr ffôn clyfar wedi'i leoli yn Shenzhen, Tsieina a sefydlwyd gan Pete Lau (Prif Swyddog Gweithredol) a Carl Pei ym mis Rhagfyr 2013.

Mae'r cwmni'n gwasanaethu 34 o wledydd a rhanbarthau ledled y byd yn swyddogol ers mis Gorffennaf 2018. Maent wedi rhyddhau nifer o ffonau, ymhlith cynhyrchion eraill.

OnePlus
Math o fusnes
Preifat
DiwydiantFfonau symudol
Sefydlwyd16 Rhagfyr 2013; 10 o flynyddoedd yn ôl (2013-12-16)
SefydlyddPete Lau, Carl Pei
PencadlysShenzhen, China
Ardal gwerthiant
Byd-eang
Pobl allweddol
Pete Lau (prif weithredwr)
Carl Pei (cyd-sefydlwr)
CynnyrchFfonau clyfar, Clustffonau, Batris, Cesys ffonau, Crysau a bagiau, OxygenOS (Byd-eang), HydrogenOS (Tseina yn unig),
Cyllidincrease US$1.4 biliwn (2017)
Gweithwyr
776 (2017)
Rhiant-gwmniBBK Electronics
oneplus.com/global

Hanes

OnePlus One
OnePlus 3

Sefydlwyd OnePlus ar 16 Rhagfyr 2013 gan gyn-lywydd Oppo, Pete Lau a Carl Pei. Yn ôl dogfennaeth llywodraeth Tseiniaidd, yr unig ddeiliad stoc sefydliadol yn OnePlus yw Oppo Electronics. Gwadodd Lau fod OnePlus yn is-gwmni sy'n eiddo llwyr i Oppo a dywedodd fod Oppo Electronics ac nid Oppo Mobile (y gwneuthurwr ffôn) yn un o brif fuddsoddwyr OnePlus a'u bod "mewn trafodaethau gyda buddsoddwyr eraill". Prif nod y cwmni oedd dylunio ffôn symudol a fyddai â ansawdd uchel a phris îs na ffonau eraill yn ei ddosbarth, gan gredu y byddai defnyddwyr "Never Settle" ar gyfer y dyfeisiau o ansawdd is a gynhyrchir gan gwmnïau eraill. Esboniodd Lau "na fyddwn ni byth yn wahanol er mwyn bod yn wahanol. Mae'n rhaid i bopeth a wneir wella profiad gwirioneddol y defnyddiwr o ddydd i ddydd." Dangosodd hefyd ddyheadau o fod yn "Muji y diwydiant technoleg", gan bwysleisio ei ffocws ar gynhyrchion o ansawdd uchel gyda dyluniadau syml, hawdd eu defnyddio.

Ym mis Ebrill 2014, cyflogodd OnePlus Han Han fel llysgennad cynnyrch ar dir mawr Tsieina.

Ar 9 Mawrth 2014, ehangodd y cwmni ei weithrediadau i'r Undeb Ewropeaidd . O fis Gorffennaf 2018, mae OnePlus yn gwasanaethu yn y 34 gwlad a rhanbarth canlynol: Awstralia, Awstria, Gwlad Belg, Bwlgaria, Canada, Tsieina, Croatia, Cyprus, Gweriniaeth Tsiec, Denmarc, Estonia, y Ffindir, Ffrainc, yr Almaen, Gwlad Groeg, Hong Kong, Hwngari, India, Iwerddon, yr Eidal, Latfia, Lithwania, Lwcsembwrg, Malta, yr Iseldiroedd, Gwlad Pwyl, Portiwgal, Romania, Sbaen, Slofacia, Slofenia, Sweden, y Deyrnas Unedig a'r Unol Daleithiau.

Cyfeiriadau

Tags:

Gweriniaeth Pobl TsieinaShenzhen

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

Gwenyth PettyStori Dylwyth Teg Tom BawdIau (planed)Bwgan brainUnol Daleithiau AmericaArgae'r Tri CheunantSaesnegHwferInstagramWyn LodwickGastonia, Gogledd CarolinaGwainHanes pensaernïaethY Dwyrain CanolIestyn GeorgeAddysg uwchraddedigJâdNoethlymuniaethLiam NeesonAfon YstwythDinbychJiwtiaidBizkaiaHonEsyllt SearsArchdderwyddGlainLos AngelesRhestr o systemau'r corff dynolRhif Llyfr Safonol RhyngwladolRiley ReidLife Begins at FortyE. Llwyd WilliamsAngela 2Dic JonesDewi SantHollt GwenerY Rhyfel AthreuliolSantes CeinwenAmy CharlesGwresIsraelY Tebot PiwsWordleMorgiStadiwm WembleyBonnes À Tuer35 DiwrnodBarcelona, CernywRahasia BuronanArlywydd IndonesiaEisteddfod Genedlaethol Cymru Pen-y-bont ar Ogwr 1948GlasSputnik ICristiano RonaldoFranz LisztGeorgia (talaith UDA)Tiwlip CretaSri LancaAfon GwyYsbïwriaethCwpan CymruMyfyr IsaacGwrth-SemitiaethGrand Theft Auto IVKolkataSex and the City.psFfistioBrychan LlŷrBridgwater🡆 More