Roedd Jean-Luc Godard (3 Rhagfyr 1930 – 13 Medi 2022) yn gyfarwyddwyr ffilm o Ffrainc a fagwyd yn y Swistir.
Daeth yn un o wneuthurwyr ffilm enwocaf a mwyaf dylanwadol yn y byd fel rhan o’r symudiad La Nouvelle Vague (y don newydd) arloesol yn ystod y 1960au.
Jean-Luc Godard | |
---|---|
Ffugenw | Hans Lucas |
Ganwyd | 3 Rhagfyr 1930 7fed arrondissement Paris, Paris |
Bu farw | 13 Medi 2022 Rolle |
Dinasyddiaeth | Ffrainc, Y Swistir |
Alma mater | |
Galwedigaeth | cyfarwyddwr ffilm, actor, sgriptiwr, sinematograffydd, cynhyrchydd ffilm, golygydd ffilm, ysgrifennwr, beirniad ffilm, cyfarwyddwr teledu, cynhyrchydd teledu, artist fideo, sgriptiwr ffilm, cyfarwyddwr |
Cyflogwr | |
Adnabyddus am | Breathless, Le Mépris, Pierrot le Fou, Sauve Qui Peut, Le Petit Soldat |
Arddull | Y Don Newydd Ffrengig |
Taldra | 1.7 metr |
Mudiad | Y Don Newydd Ffrengig |
Tad | Paul Godard |
Mam | Odile Monod |
Priod | Anne Wiazemsky, Anne-Marie Miéville, Anna Karina |
Perthnasau | Maximilien Vox |
Gwobr/au | Gwobr Theodor W. Adorno, Praemium Imperiale, Gwobr Sutherland, Y Llew Aur, Y César Anrhydeddus, Gwobr Louis Delluc, Y César Anrhydeddus, Gwobr Anrhydeddus yr Academi, Jury Prize, Yr Arth Aur, Leopard of Honour, Gwobr Cyflawniad Oes yr Academi Ffilm Ewropeaidd, Gwobr yr Arth Arian i'r Cyfarwyddwr Gorau, Silver Lion, Gwobr y Llew Aur am Gyflawniadau Gydol Oes, Palme d'Or, Silver Bear for Outstanding Artistic Contribution, Silver Bear |
llofnod | |
Mae ei ffilmiau enwocaf yn cynnwys A Bout de Souffle, Weekend, Alphaville, Bande à part, Le Mépris ac One Plus One – Sympathy for the Devil.
Ganwyd Godard yn Paris yn 1930 i deulu bourgeois, ei dad yn ddoctor preifat, ei fam o deulu o fancwyr. Treuliodd ei blentyndod yn y Swistir cyn dychwelyd i Paris yn 1948 i fynd i Brifysgol y Sorbonne.
Fel myfyriwr mynychodd glybiau sinema ble daeth yn ffrindiau gyda François Truffaut a Jacques Rivette. Yn 1954 dychwelodd Godard i’r Swistir i weithio fel adeiladwr. Gyda’r arian a enillodd gwnaeth ei ffilm fer gyntaf Opérion béton am adeiladu cronfa dŵr.
Yn ôl yn Paris, daeth yn amlwg fel beirniad sinema, yn ysgrifennu erthyglau i’r cylchgrawn dylanwadol Cahiers du cinéma. Roedd yn feirniadol o wneuthurwyr ffilm sefydledig a thraddodiadol ond yn gefnogol i arloeswyr.
Yn 1959 wnaeth ei ffilm hir gyntaf A bout de souffle (Breathless oedd y teitl Saesneg). Roedd y ffilm yn llwyddiant enfawr ac enillodd Godard glod mawr am ei syniadau arloesol a radicalaidd o ffilmio a sgriptio. Gyda ffilm Truffaut o'r un flwyddyn Les Quatre cents coups (400 Blows ) roedd A bout de souffle yn sylfaen i fudiad La Nouvelle Vague ac un o gyfnodau mwyaf cyffroes sinema Ffrainc.
Derbyniodd ei ffilmiau nesaf dderbyniad cymysg. Cafodd Le Petit soldat (1960) ei wahardd tan 1963 gan sensor ffilmiau Ffrainc am iddi ddelio gyda rhyfel annibyniaeth Algeria. Nid oedd ei ffilmiau lliw cyntaf Une femme est une femme (1961) a Les Carabiniers (The Carabineers - 1963) yn llwyddiannau mawr gyda’r cyhoedd. Ond roedd Vivre sa vie: film en douze tableaux (My Life to Live – 1962) gyda'i wraig Anna Karina yn y brif ran yn llwyddiant gyda’r cynulleidfaoedd a’r beirniaid.
Roedd Anna Karina hefyd yn chwarae un o’r prif rannau yn Bande à part (Band of Outsiders - 1964) Pierrot le Fou (1965), ac Alphaville (1966).
Ei lwyddiant masnachol mwyaf oedd Le Mépris (Contempt – 1963) gyda’r seren ddisglair Brigitte Bardot.
Yn ystod 1960au aeth ffilmiau Godard ar drywydd arbrofol a gwleidyddol. Roedd Godard yn rhan o wrthdystiadau Paris 1968 a daeth yn gefnogwr i syniadaeth gomiwnyddol radicalaidd Mao-aidd. Cyfeirir at ffilmiau o’r cyfnod 1967-1973 fel rhai années Mao (blynyddoedd Mao). Trodd ei gefn ar sinema masnachol gan gydweithio gyda grwpiau o weithredwyr goleddol i gynhyrchu ffilmiau gwleidyddol ei hun.
Dychwelodd i fyd sinema boblogaidd gyda Sauve qui peut (1979). Wrth i sinema boblogaidd droi fwyfwy at ffilmiau fformiwla saff a sicrwydd elw, roedd Godard yn dal i greu ffilmiau profoclyd yn ymdrin â themâu gwleidyddol, seicolegol a dynol. Roedd yn derbyn clod gan rhai beirniaid a dilynwyr ffilm cyfoes, ac nid oedd Godard yn poeni bod ei ffilmiau'n cael eu hystyried yn anfasnachol ac yn ‘rhy gymhleth’ ar gyfer cynulleidfa eang.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Jean-Luc Godard, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.