Athrawiaeth eglwysig Gristnogol yw olyniaeth apostolaidd sy'n honni bod yr esgobyddiaeth yn cynrychioli llinach ddi-dor y gellir ei holrhain yn ôl i Ddeuddeg Apostol yr Iesu.
Yn ôl y ddysgeidiaeth hon, mae esgobion yn berchen ar rymoedd arbennig y maent wedi etifeddu oddi ar yr apostolion, gan gynnwys yr hawliau i gonffyrmio aelodau'r eglwys, i ordeinio offeiriaid, i gysegru esgobion eraill, ac i lywodraethu'r glerigiaeth ac aelodau'r eglwys yn eu hesgobaethau.
Mae'r athrawiaeth yn dyddio'n ôl i oes yr Eglwys Fore, er bod ei union darddiad yn ansicr. Dehonglir hanes ac athrawiaeth boreuaf y ffydd Gristnogol yn y Testament Newydd yn wahanol gan wahanol eglwysi a diwinyddion. Tua'r flwyddyn 95, ysgrifennodd Clement, Esgob Rhufain, lythyr at yr eglwys yng Nghorinth sy'n cadarnhau'r olyniaeth apostolaidd. Yn aml dyfynnir Mathew 28:19–20, anerchiad Iesu at ei apostolion, fel tystiolaeth o sefydlu'r esgobyddiaeth ganddo:
"Felly ewch i wneud pobl o bob gwlad yn ddisgyblion i mi, a'u bedyddio nhw fel arwydd eu bod nhw wedi dod i berthynas â'r Tad, a'r Mab a'r Ysbryd Glân. A dysgwch nhw i wneud popeth dw i wedi'i ddweud wrthoch chi. Gallwch chi fod yn siŵr y bydda i gyda chi bob amser, nes bydd diwedd y byd wedi dod."
Derbynir athrawiaeth yr olyniaeth apostolaidd gan yr eglwysi Catholig, Uniongred Ddwyreiniol, Hen Gatholig, Lwtheraidd (Llychlyn), Anglicanaidd, a Morafaidd. Mae eglwysi eraill yn dal nad yw'r olyniaeth apostolaidd a'r esgobyddiaeth yn angenrheidiol i weinyddu'r ffydd Gristnogol.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Olyniaeth apostolaidd, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.