Lleolir Ogof Denisova (Rwseg: Денисова пещера, hefyd Ayu-Tash) yng nghadwyn Bashelaksky ym Mynyddoedd Altai yn rhanbarth Crai Altai, Siberia, Rwsia.
Mae'r ogof o ddiddordeb paleoarchaeolegol a phaleontolegol mawr. Darganfuwyd darnau esgyrn o'r hominin Denisova, y cyfeirir ati weithiau fel y "ddynes X" (oherwydd disgyniad ar ochr y fam y DNA mitochondrial), yn yr ogof, ynghyd ag artiffactau sy'n dyddio o tua 40,000 mlynedd yn ôl. Darganfuwyd olion Neanderthaliaid yn yr ogof yn ogystal â homo sapiens cynnar; ill dau'n byw yn yr un cyfnod. Canfuwyd dau ddant aelodau gwahanol o'r un boblogaeth ac yn ddiweddar canfuwyd dant arall a oedd yn cynnwys DNA, a olygai ei bod yn bosibl dyddio'r dant.
Math | ogof, solutional cave, paleolithic site |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Soloneshensky District |
Gwlad | Rwsia |
Uwch y môr | 670 ±1000000000 metr |
Cyfesurynnau | 51.397581°N 84.676206°E |
Cadwyn fynydd | Mynyddoedd Altai |
Statws treftadaeth | safle treftadaeth ddiwylliannol ffederal yn Rwsia |
Manylion | |
Lleolir yr ogof ger pentref bychan Chorny Anui (Rwseg: Чёрный Ануй) ym Mynyddoedd Altai ger y ffin rhwng Crai Altai a Gweriniaeth Altai, ar lan Afon Anui tua 150 km i'r de o ddinas Barnaul. Ffurfwyd yr ogof o galchfaen Silwraidd ac mae'n cynnwys llawr gyda arwynebedd o 270 metr sgwar. Ceir siambr ganolog sy'n mesur 9 x 11 metr gyda siambrau ymylol hefyd.
Mae sedimentau'r ogof yn llawn o weddilion anifeiliaid, yn cynnwys rhai sydd wedi darfod. Cafwyd hyd i weddillion 27 rhywogaeth o anifeiliad mawr, yn cynnwys udfil a llewod ogof, a 39 rhywogaeth o famaliaid llai, yn ogystal â gweddillion ymlusgiaid, a 50 rhywogaeth o adar.
Mae Hominin Denisova yn rhywogaeth unigryw o fewn y genws Homo. Enwau arall ar y rhywogaeth hon yw Homo sp. Altai neu Homo sapiens ssp. Denisova.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Ogof Denisova, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.