Nofel a chanddi stori wedi ei gosod mewn oes o'r blaen yw nofel hanesyddol.
Gallai portreadu digwyddiadau a chymeriadau go iawn neu fod yn naratif gwbl ffuglennol, ond byddai wastad yn tynnu ar themâu sy'n ymwneud â chyfnod hanesyddol penodol.
Enghraifft o'r canlynol | novel genre, literary genre by form, dosbarth llenyddol |
---|---|
Math | nofel, llenyddiaeth hanesyddol |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Y llenor cyntaf i ddefnyddio'r gorffennol yn gefndir i'w straeon am ramant a brad oedd yr Albanwr Syr Walter Scott. Bu sawl nofelydd Ewropeaidd, gan gynnwys Manzoni, yn dynwared arddull Scott, ac felly datblygodd y nofel hanesyddol fel genre unigryw. Fe'i defnyddid i osod cyd-destun ffeithiol a diddorol i'r darllenwr, ac yn fyd parod llawn antur a drama. Bu rhai o lenorion y 19g yn ysgrifennu nofelau tra chenedlaetholgar gan dynnu ar hanes traddodiadol a mythau cenedlaethol.
Yn yr 20g manteisiodd awduron ar y ffurf hon o'r nofel i ymdrin â syniadau seicolegol a chymdeithasegol am feddylfryd ein hynafiaid, megis Robert Graves yn I, Claudius (1934) a Marguerite Yourcenar yn Mémoires d'Hadrien (1951). Gan amlaf, arbenigai nofelwyr hanesyddol mewn dosbarthiadau penodol o'r genre, rhai ohonynt yn hynod o boblogaidd: y rhamant hanesyddol, nofelau cyfnod y Rhaglywiaeth, anturiaethau morwyr yn Rhyfeloedd Napoleon, straeon y Gorllewin Gwyllt, a'r nofel deuluol.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Nofel hanesyddol, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.