Ffuglen yw gwaith sy'n adrodd stori nad yw'n hollol seiliedig ar ffeithiau.
Y prif bwrpas fel rheol yw difyrrwch, er y gall fod gan yr awdur amcanion eraill hefyd. Gall fod yn ysgrifenedig neu ar lafar. Er enghraifft, credir fod chwedlau fel Pedair Cainc y Mabinogi a Culhwch ac Olwen wedi dechrau fel chwedlau llafar, ac wedi cael eu rhoi mewn ysgrifen yn ddiweddarach, er bod beirniaid ac ysgolheigion yn anghytuno pa bryd y bu hyn.
Enghraifft o'r canlynol | genre o fewn celf |
---|---|
Math | gwaith celf, naratif |
Y gwrthwyneb | ffeithiol |
Yn cynnwys | work of fiction |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Ymhlith elfennau pwysicaf ffuglen mae cymeriadau, plot (cynllun y stori) a lleoliad. Ceir nifer o wahanol ffurfiau o ffuglen ysgrifenedig; y mwyaf cyffredin yw'r nofel a'r stori fer. Gellir hefyd dosbarthu ffuglen yn ôl genre, er enghraifft Ffuglen wyddonol.
Fel rheol mae ffuglen ar ffurf rhyddiaith greadigol.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Ffuglen, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.