Mae'r term Neo-ffiwdaliaeth yn cael ei ddefnyddio yn y 21ain ganrif i ddisgrifio anghydraddoldeb cynyddol a chrynhoi pŵer yn nwylo nifer fach o unigolion a chorfforaethau cyfoethog.
Fe'i defnyddir hefyd i ddisgrifio gwanhau sefydliadau democrataidd a thwf llywodraethau totalitaraidd.
Roedd ffiwdaliaeth yn system gymdeithasol a gwleidyddol yn Ewrop yr Oesoedd Canol. Byddai'r werin yn dal tir yn gyfnewid am wasanaeth neu deyrngarwch i arglwydd neu uchelwr.
Mae agweddau o Neo-ffiwdaliaeth yn cynnwys goruchafiaeth cymdeithasau gan grwpiau elitaidd bach a phwerus a hawliau anghyfartal ac amddiffyniadau cyfreithiol i bobl gyffredin wrth gymharu ag unigolion a chorfforaethau cyfoethog.
Yn gyffredinol, mae’r term yn cyfeirio at ddatblygiad economaidd yn yr 21ain ganrif. I ddechrau, defnyddiwyd y term fel beirniadaeth o'r Chwith wleidyddol ac o'r Dde. Enghraifft gynnar sy'n feirniadol o'r Chwith yw'r traethawd Neo-Feudalism gan John Kenneth Galbraith, a gyhoeddwyd ym 1961. Mae'r economegydd adain chwith Yanis Varoufakis yn defnyddio'r term Tecno-ffiwdaliaeth i ddadlau mai arian banc canolog a llwyfannau digidol, nid elw a marchnadoedd, sy’n gyrru economi ac anghydraddoldeb cynyddol ers ddechrau'r 21fed ganrif..
Nid yw'r term neo-ffiwdaliaeth heb ei feirniaid. Mae rhai yn dadlau ei fod yn derm camarweiniol, gan nad yw'n adlewyrchu realiti'r byd modern yn gywir. Mae eraill yn dadlau ei fod yn derm codi bwganod, i ddychryn am gyflwr y byd.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Neo-ffiwdaliaeth, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.