Unrhyw ddamcaniaeth sydd yn haeru bod yr holl fodau a digwyddiadau yn y bydysawd yn naturiol yw naturiolaeth.
Mae'n cysylltu'r dull gwyddonol ag athroniaeth trwy dal bod holl wybodaeth y bydysawd yn dod o fewn gwelw ymchwiliad gwyddonol. Fel rheol, mae naturiolaeth felly yn gwrthod y goruwchnaturiol a'r ysbrydol. Mae rhai mathau o naturiolaeth yn caniatáu i'r goruwchnaturiol, ar yr amod y gellir cael gwybodaeth amdano yn anuniongyrchol, hynny yw, bod endidau goruwchnaturiol (fel y'u gelwir) yn dylanwadu ar wrthrychau naturiol mewn ffordd y gellir ei chanfod.
Enghraifft o'r canlynol | mudiad athronyddol |
---|---|
Y gwrthwyneb | athroniaeth oleuol |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
O safbwynt y naturiolydd, mae natur a realiti yn gyfystyr ac yn unfath, ac nid oes unrhyw beth gwirioneddol canfyddadwy y tu hwnt i'r bydysawd naturiol. Gyrrir natur oll gan ddeddfau gwrthrychol y gellir eu profi mewn termau pendant trwy ddulliau gwyddonol. Wrth ymdrin ag epistemoleg, mae'r mwyafrif o naturiolwyr yn gwrthod metaffiseg, ac yn canolbwyntio yn gyfan gwbl ar ddiriaeth, ar draul haniaeth.
O ran ontoleg, nid oes gan naturiolaeth ffafriaeth tuag at unrhyw set benodol o gategorïau realiti. Er iddi gael ei chysylltu yn aml â materoliaeth, gall fod hefyd yn gyson â delfrydiaeth; yn yr un modd, gall gydweddu â naill ai deuoliaeth neu fonyddiaeth, ac anffyddiaeth neu theistiaeth.
Bu naturiolaeth fodern ar ei hanterth yn y 1930au a'r 1940au, yn enwedig yn Unol Daleithiau America. Ymhlith prif athronwyr yr ysgol hon mae F. J. E. Woodbridge, Morris R. Cohen, John Dewey, Ernest Nagel, a Sidney Hook.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Naturiolaeth (athroniaeth), which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.