Y gangen o athroniaeth sy'n ymwneud â natur gwybodaeth, a't berthynas rhwng gwybodaeth a gwirionedd yw epistemoleg (o'r Groeg επιστήμη - episteme, gwybodaeth + λόγος, logos), epistemeg neu gwybodeg.
Mae'n delio â chwestiynau fel "Beth yw gwybodaeth?", "Sut mae cael gwybodaeth?", a "Beth mae pobl yn ei wybod?"
Er enghraifft, yn un o ddialogau Platon, Theaetetus, mae Socrates yn ystyried nifer o syniadau ynghylch natur gwybodaeth. Yr olaf yw fod gwybodaeth yn gred wir y gellir rhoi cyfrif amdani; hynny yw, i feddu gwybodaeth, mae'n rhaid i berson nid yn unig gredu rhywbeth sy'n wir ond hefyd feddu ar reswm da dros gredu hynny.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Epistemoleg, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.