Yn chwedloniaeth Groegaidd, heliwr o Thespiae yn Boeotia a oedd yn enwog am ei brydferthwch oedd Narcissus neu Narkissos (Groeg (iaith): Νάρκισσος).
Credir y gallai ei enw darddu o'r gair ναρκη (narke) yn meddwl "cwsg, diffyg teimlad." Roedd yn ŵr hynod o falch a dirmygai'r bobl a oedd yn ei garu. Sylwodd Nemesis ar hyn a denodd Narcissus at bwll dŵr lle gwelodd ei adlewyrchiad ei hun ynddo a chwympodd mewn cariad gydag ef. Ni sylweddolodd mai rhith yn unig ydoedd. Am nad oedd ef yn medru gadael prydferthwch ei adlewrchiad, bu farw Narcissus.
Mae sawl fersiwn gwahanol o'r chwedl hon wedi goroesi o ffynonellau amrywiol. Ceir y fersiwn glasurol gan Ofydd, yn ei drydydd llyfr o Metamorphoses (a gwblhawyd yn 8 AD). Dyma yw hanes Narcissus a Echo. Priodolir fersiwn cynt, a gyfansoddwyd tua 50 CC, i'r bardd Parthenius o Nicaea, a daethpwyd o hyd iddo'n ddiweddar ymysg y Oxyrhynchus papyri yn Rhydychen. Yn wahanol i fersiwn Ofydd, diwedda'r chwedl hon gyda Narcissus yn cymryd ei fywyd ei hun. Mae fersiwn Conon, o'r un cyfnod ag Ofydd, hefyd yn gorffen y chwedl gyda hunanladdiad (Narrations, 24). Canrif yn ddiweddarach, cofnododd yr ysgrifennwr teithiol Pausanias fersiwn wahanol o'r chwedl, lle mae Narcissus yn cwympo mewn cariad gyda'i chwaer efaill yn hytrach na gyda ef ei hun (Guide to Greece, 9.31.7).
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Narcissus (mytholeg), which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.