Pobl Fwslimaidd oedd yn byw ym Moroco, Penrhyn Iberia, a mannau eraill yng Ngogledd Affrica a'r Môr Canoldir yn yr Oesoedd Canol oedd y Mwriaid (ffurf unigol: Mŵr).
Tarddodd o'r Arabiaid, Sbaenwyr a Berberiaid a sefydlodd y gwareiddiad Al-Andalus ym Mhenrhyn Iberia. Defnyddir y term "Mwraidd" i ddisgrifio cymdeithas a diwylliant Al-Andalus. Nid yw'r enw yn cyfeirio at grŵp ethnig benodol, gan ei bod yn cynnwys yr Ewropeaid a drodd yn Fwslimiaid yn ogystal â'r Arabiaid, Berberiaid ac Affricanwyr cymysg, ond hyd at yr 17g defnyddiwyd "Mŵr" i ddisgrifio dynion croenddu neu felynddu, er enghraifft y prif gymeriad yn y ddrama Othello gan Shakespeare.
Daw'r enw o'r Lladin Maurus, a ddefnyddiwyd gyntaf gan y Rhufeiniaid i ddisgrifio trigolion nomadaidd y dalaith Mauretania, sydd heddiw yn rhan o Algeria a Moroco. Cawsant eu troi'n Fwslimiaid yn yr 8g, ac ymfudant i'r de-orllewin, y wlad a elwir heddiw Mawritania, ac i'r gogledd i Benrhyn Iberia. Trechant y Fisigothiaid yn Iberia, a chawsant eu gwthio'n ôl o Ffrainc gan Charles Martel yn 732. Sefydlwyd brenhinllin yr Umayyad yn Córdoba, a ddatblygodd yn ddiweddarach yn galiffiaeth. Er i ddiwylliant y Mwriaid ffynnu, nid oedd llywodraeth ganolog gryf ganddynt a buont yn rhyfela'n erbyn y Cristnogion yng ngogledd-orllewin Sbaen. Cwympodd y galiffiaeth yn 1031, a daeth ei thiriogaethau dan reolaeth yr Almorafidiaid ac yna'r Almohadiaid yn hwyr y 12g. Yn raddol, enillodd y Cristnogion dir oddi ar y Mwriaid yn Iberia yng nghyfnod y Reconquista. Granada oedd yr olaf o gaerau'r Mwriaid i gwympo i'r Cristnogion, a hynny yn 1492.
Arhosodd nifer o'r Mwriaid yn Sbaen, a throdd rhai ohonynt yn Gristnogion, a elwir yn Forisgiaid. Cawsant eu herlid dan y Brenin Felipe II ac yn ystod y Chwilys Sbaenaidd. Cafodd y gweddill eu halltudio yn 1609.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Mwriaid, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.