Mae Mosg Umar (Arabeg: مسجد عمر بن الخطاب) yn fosg Ayyubidaidd, yn Jeriwsalem, gyferbyn â iard deheuol Eglwys y Cysegr Sanctaidd yn ardal Muristan yn y Chwarter Cristnogol.
Enghraifft o'r canlynol | mosg |
---|---|
Gwlad | Palesteina |
Dechrau/Sefydlu | 1193 |
Enw brodorol | مسجد عمر |
Gwladwriaeth | Gwladwriaeth Palesteina, Israel |
Rhanbarth | Jeriwsalem |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Yn ôl naratifau a ysgrifennwyd yn dilynl Gwarchae Jerwsalem yn 637 gan fyddin Mwslimaidd Rashidun o dan orchymyn Abu Ubaidah ibn al-Jarrah, gwrthododd Patriarch Sophronius ildio ac eithrio i’r Caliph Umar (579-644) ei hun. Teithiodd Umar i Jerwsalem a derbyn yr ildiad. Yna ymwelodd ag Eglwys yr Atgyfodiad (a elwir heddiw yn Eglwys y Cysegr Sanctaidd ) lle gwahoddodd Sophronius ef i weddïo y tu mewn i'r eglwys, ond gwrthododd Omar er mwyn peidio â gosod cynsail a thrwy hynny beryglu statws yr eglwys fel safle Cristnogol. Yn hytrach gweddïodd y tu allan, ar y grisiau i'r dwyrain o'r eglwys. Yn ddiweddarach, adeiladwyd Mosg cyntaf Umar ar y safle hwnnw, fel y tytir gan garreg gydag arysgrif Kufig a ddarganfuwyd ym 1897 yn ardal atriwm dwyreiniol neu allanol Eglwys yr Atgyfodiad Cystennin I (4g), gan ddiffinio'r ardal hon fel mosg.
Adeiladwyd Mosg cyfredol Umar yn ei siâp presennol gan y Swltan Ayyubidaidd Al-Afdal ibn Salah ad-Din ym 1193 i gofio gweddi’r caliph Umar. Mae'r mosg presennol wedi'i leoli mewn safle gwahanol i'r un lle credir i Omar weddïo a lle lleolwyd y mosg cynharach, gan ei fod yn sefyll i'r de o'r eglwys yn hytrach nag i'r dwyrain ohoni. Gwnaed hyn mae'n debyg gan fod y fynedfa i Eglwys y Cysegr Sanctaidd wedi symud o'r dwyrain i'r de o'r eglwys oherwydd digwyddiadau dinistriol dro ar ôl tro a effeithiodd ar y Cysegr Sanctaidd yn ystod yr 11g a'r 12g.
Mae gan Fosg Al-Khanqah al-Salahiyya, sydd wedi'i leoli ar ochr arall (ochr ogleddol) Eglwys y Cysegr Sanctaidd, feindwr bron yn union yr un fath, ac a godwyd ym 1418. Yn amlwg, cynlluniwyd y ddau fel pâr, ac mae'n ddiddorol sylwi y byddai llinell sy'n cysylltu'r ddau feindwr yn croestorri drws Feddrod Iesu y tu mewn i'r eglwys, tra bod y meindyrau yn gyfochrog â'r drws hwnnw a'u topiau'n cyrraedd yr un drychiad yn union, er gwaethaf dechrau ar wahanol lefelau ar y ddaear.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Mosg Umar (Jeriwsalem), which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.