Rhanbarth hanesyddol yn nwyrain y Weriniaeth Tsiec, yng nghanol Ewrop, yw Morafia (Tsieceg a Slofaceg Morafa ; Almaeneg Mähren; Hwngareg Morvaország; Pwyleg Morawy).
Daw'r enw o Afon Morafa sydd a'i ffynhonnell yng ngogledd-orllewin yr ardal ac roedd yn un o dri prif rhanbarth y wlad (gyda Bohemia a Czech Silesia). Arferai fod yn un o 17 ardal y goron yn Ymerodraeth Awstria-Hwngari rhwng 1867–1918 ac yn un o 5 prif rhanbarth Tsiecoslofacia rhwng 1918–1928. Prifddinas Morafia yw Brno; cyn y Rhyfel Deng Mlynedd ar Hugain roedd yma dwy brifddinas: Olomouc a Brno.
Math | rhanbarth, Czech lands, ardal hanesyddol |
---|---|
Enwyd ar ôl | Morava |
Prifddinas | Brno, Olomouc |
Nawddsant | Saints Cyril and Methodius |
Daearyddiaeth | |
Sir | tsiecia, Protectorate of Bohemia and Moravia, Czech Socialist Republic, Lands of the Bohemian Crown |
Gwlad | Tsiecia |
Arwynebedd | 22,348.87 km² |
Cyfesurynnau | 49.5°N 17°E |
Mae Morafia'n dalp helaeth o'r Wladwriaeth Tsiec, ac yn cynnwys Rhanbarth De Morafia ac ardal y Zlín, yn ogystal ag ardal Moravian-Silesian, Olomouc, Pardubice, Vysočina a De Bohemia.
Mae Morafia'n ffinio gyda Gwlad Pwyl yn y gogledd, Czech Silesia yn y gogledd-ddwyrain, De Awstria yn y de a Bohemia yn y gorllewin. Mynyddoedd y Sudetes yw ei ffin gogleddol, sydd o fewn dim yn troi'n Garpatiau yn y dwyrain. Nadredda'r Dyje yn ffin rhwng Morafia ac Awstria a cheir ardal gadwriaeth o bopty'r afon yn yr ardal a elwir yn Hardegg.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Morafia, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.