Prif lys barn y Cenhedloedd Unedig yw'r Llys Cyfiawnder Rhyngwladol (Saesneg: International Court of Justice, Ffrangeg: Cour internationale de Justice).
Ei bencadlys yw'r Palas Heddwch yn Den Haag yn yr Iseldiroedd.
Palas Heddwch, Den Haag, pencadlys y Llys Cyfiawnder Rhyngwladol | |
Enghraifft o'r canlynol | llys rhyngwladol, prif ran o'r Cenhedloedd Unedig |
---|---|
Label brodorol | International Court of Justice |
Rhan o | system y Cenhedloedd Unedig, Y Cenhedloedd Unedig |
Dechrau/Sefydlu | 1945 |
Lleoliad | Den Haag |
Pennaeth y sefydliad | President of the International Court of Justice |
Rhagflaenydd | Permanent Court of International Justice |
Rhiant sefydliad | Y Cenhedloedd Unedig |
Pencadlys | Palas Heddwch |
Enw brodorol | International Court of Justice |
Rhanbarth | Den Haag |
Gwefan | https://www.icj-cij.org |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Sefydlwyd y llys gan Siarter y Cenhedloedd Unedig yn 1945, a dechreuodd ar ei waith yn 1946. Ei brif waith yw barnu ar faterion cyfreithiol a gyflwynir iddo gan wahanol wledydd ac i roi barn ar ymholiadau cyfreithiol gan wahanol sefydliadau. Mae'n cynnwys 15 barnwr a etholir am gyfnod o naw mlynedd gan y Cenhedloedd Unedig. Cynhelir etholiadau bob tair blynedd, gyda thraean o'r aelodaeth yn ymddeol neu'n ceisio ail-etholiad bob tro.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Llys Cyfiawnder Rhyngwladol, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.