Un o daleithiau yr Iseldiroedd yw Zuid-Holland (De Holland).
Saif yng ngorllewin y wlad, ger yr arfordir. Mae'r dalaith yn un o'r tiriogaethau mwyaf diwydiannol yn y byd, a'r dwysder poblogaeth ymhlith yr uchaf. Roedd y boblogaeth yn 3.46 miliwn yn 2006, gan wneud Zuid-Holland y fwyaf o daleithiau'r Iseldiroedd o ran poblogaeth.
Math | Taleithiau'r Iseldiroedd |
---|---|
Enwyd ar ôl | Holand |
Prifddinas | Den Haag |
Poblogaeth | 3,577,032 |
Sefydlwyd | |
Anthem | anthem of South-Holland |
Pennaeth llywodraeth | Jaap Smit |
Cylchfa amser | UTC+01:00 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Yr Iseldiroedd |
Gwlad | Yr Iseldiroedd |
Arwynebedd | 3,418.5 ±0.01 km² |
Yn ffinio gyda | Noord-Holland, Utrecht, Noord-Brabant, Zeeland, Gelderland |
Cyfesurynnau | 52°N 4.67°E |
NL-ZH | |
Corff gweithredol | Provincial Executive of South Holland |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | King's Commissioner of South Holland |
Pennaeth y Llywodraeth | Jaap Smit |
Mae'n ffinio ar Zeeland yn y de, Noord-Brabant yn y de-ddwyrain a Gelderland ac Utrecht yn y dwyrain. Yn y gogledd mae'n ffinio ar Noord-Holland, tra mae'r môr ar yr ochr orllewinol. Hyd 1840 roedd Zuid-Holland a Noord-Holland yn un dalaith, Holland.
Y ddinas fwyaf yn y dalaith yw Rotterdam, sy'n un o bothladdoedd pwysicaf Ewrop; tra mae prifddinas y dalaith, Den Haag, hefyd yn brifddinas llywodraeth yr Iseldiroedd ac yn gartref i'r llys cyfiawnder rhyngwladol. Dinasoedd pwysig eraill yw Dordrecht, Delft, Leiden, Alphen aan den Rijn a Gouda.
Taleithiau'r Iseldiroedd | |
---|---|
Taleithiau'r Iseldiroedd | Groningen • Fryslân • Drenthe • Overijssel • Flevoland • Gelderland • Utrecht • Noord-Holland • Zuid-Holland • Zeeland • Noord-Brabant • Limburg |
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Zuid-Holland, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.