Gweinidog, athro, athronydd a phennaeth cyntaf Coleg y Bala oedd Lewis Edwards (27 Hydref 1809 - 19 Gorffennaf 1887).
Lewis Edwards | |
---|---|
Ganwyd | 27 Hydref 1809 Llanbadarn Fawr |
Bu farw | 19 Gorffennaf 1887 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | pennaeth |
Priod | Jane Edwards |
Plant | Thomas Charles Edwards, Llewelyn Edwards |
Ganed Edwards ym Mhwllcenawon, Pen-llwyn, ym mhlwyf Llanbadarn Fawr, Sir Aberteifi. Bu'n ddisgybl mewn nifer o ysgolion yn y cylch, ac yn 1827 agorodd ysgol ei hun yn Aberystwyth. Yn fuan wedyn daeth yn athro yn ysgol Llangeitho.
Yn 1829 derbyniwyd ef yn bregethwr gyda'r Methodistiaid Calfinaidd. Aeth i goleg yn Llundain, a ddaeth yn ddiweddarach yn Brifysgol Llundain, ond bu raid iddo adael ar ôl blwyddyn. Aeth yn genhadwr cartrefol i Dalacharn, yna aeth i Brifysgol Caeredin lle graddiodd yn D.D. yn 1835.
Yn 1836, priododd Jane Charles, ŵyres Thomas Charles o'r Bala, a'r flwyddyn wedyn agorodd ysgol yn y Bala a ddatblygodd i fod yn Goleg y Bala, athrofa i bregethwyr y Methodistiaid Calfinaidd.
Ystyrid ef yn un o bregethwyr amlycaf ei gyfnod, ac roedd yn awdur toreithiog. Gyda Roger Edwards a Thomas Gee, dechreuodd Y Traethodydd yn 1845. Ef oedd arweinydd amlycaf y Methodistiaid Calfinaidd erbyn rhan olaf ei oes, a daeth dan feirniadaeth Emrys ap Iwan am ei gefnogaeth i'r "Achosion Saesneg". Mab iddo oedd Thomas Charles Edwards, Prifathro cyntaf Prifysgol Aberystwyth.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Lewis Edwards, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.