Dysgl o reis arbennig yw Kabsa (Arabeg: كبسة kabsah), wedi'i weini ar gyfer grwp o bobl, ac sy'n tarddu o Sawdi Arabia ond sydd heddiw'n cael ei ystyried fel dysgl genedlaethol gwledydd penrhyn Arabia.
Enghraifft o'r canlynol | bwyd |
---|---|
Math | rice dish |
Deunydd | reis, cig, cardamom, cneuen yr India, deilen 'bay', sinamon, leim du, nionyn, tomato |
Gwlad | Bahrain |
Yn cynnwys | reis |
Enw brodorol | كبسة |
Gwladwriaeth | Sawdi Arabia |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Gwneir y dysgl gyda reis a chig. Yn aml gellir dod o hyd iddo wedi'i arlwyo mewn gwledydd fel Sawdi Arabia, Coweit, Bahrain, Qatar, yr Emiradau Arabaidd Unedig, Oman, Iemen, Ahwaz (Iran) ac anialwch Negev yn Israel. Gelwir y dysgl hefyd yn makbūs / machbūs (مكبوس/مچبوس (mɑtʃˈbuːs).
Mae'r enw'n dod o'r gair kabasa (Arabeg: كبس), sy'n golygu'n llythrennol 'pwyso' neu 'wasgu', gan gyfeirio at y dechneg a ddefnyddir wrth goginio lle mae'r cynhwysion i gyd wedi'u gwasgu ac yna eu coginio mewn un pot.
Gwneir y prydau hyn fel arfer gyda reis (basmati fel arfer), cig, llysiau, a chymysgedd o sbeisys. Mae yna lawer o fathau o kabsas ac mae gan bob math rywbeth unigryw yn ei gylch.
Mae sbeisys kabsa wedi'u cymysgu ymlaen llaw bellach ar gael o dan sawl enwau brand. Mae'r rhain yn lleihau'r amser paratoi, ond gallant fod â blas sy'n wahanol i kabsa traddodiadol. Y sbeisys a ddefnyddir mewn kabsa sy'n bennaf gyfrifol am ei flas; pupur du, clof, cardamom, saffrwm, sinamon, leim du, dail bay a nytmeg yw'r rhai arferol.
Y prif gynhwysyn sy'n cyd-fynd â'r sbeisys yw'r cig. Y cigoedd a ddefnyddir fel arfer yw cyw iâr, cig gafr, cig oen, cig camel, cig eidion, pysgod neu gorgimwch . Mewn machbūs cyw iâr, defnyddir cyw iâr cyfan.
Gellir ychwanegu at y sbeisys, y reis a'r cig gydag almonau, cnau pinwydd, cnau mwnci, winwns a syltanas. Gall y ddysgl gael ei addurno gyda ḥashū (Arabeg: حشو ) a'i arlwyno'n boeth gyda daqqūs (Arabeg: دقّوس), sy'n saws tomato Arabeg a wneir gartref.
Gellir coginio cig ar gyfer kabsa mewn sawl ffordd. Gelwir ffordd boblogaidd o baratoi cig yn mandi. Mae hon yn dechneg hynafol sy'n tarddu o Yemen, lle mae cig yn cael ei farbeciwio mewn twll dwfn yn y ddaear sy'n cael ei orchuddio wrth i'r cig goginio. Ffordd arall o baratoi a gweini cig ar gyfer kabsa yw mathbi, lle mae cig wedi'i sesno yn cael ei grilio ar gerrig gwastad sy'n cael eu rhoi ar ben y marwydos. Mae trydydd dechneg, madghūt, yn cynnwys coginio'r cig mewn popty pwysau uchel (pressure cooker).
cyfeiriadauˌ
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Kabsa, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.