Mae Jade Almarie Louise Ewen (ganed 24 Ionawr 1988 yn Llundain) yn gantores ac actores Seisnig.
Dechreuodd Ewen ei gyrfa gyda rôl Nala yn y sioe gerdd The Lion King yn West End Llundain. Ers hynny, mae Ewen wedi gweithio ar nifer o gyfresi teledu yn y DU ac Awstralia. Yn 2005 ymunodd Ewen â'r grŵp R&B, "Trinity Stone" a gafodd ychydig o lwyddiant yn y Deyrnas Unedig, Iwerddon a Rwsia. Ar y 31ain o Ionawr, 2009, dewiswyd Ewen i ganu yng Nghystadleuaeth Cân Eurovision a pherfformiodd yng Nghystadleuaeth Cân Eurovision 2009 ym Moscow ar yr 16eg o Fai. Daeth y Deyrnas Unedig yn bumed, a thrwy wneud hynny, Ewen sydd wedi gwneud orau ar ran y DU yn yr Eurovision ers 2002. Yn 2009, disodlodd Ewen Keisha Buchanan yn y grŵp Sugababes.
Jade Ewen | |
---|---|
Ganwyd | 24 Ionawr 1988 Llundain |
Label recordio | Polydor Records |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Alma mater | |
Galwedigaeth | actor, canwr-gyfansoddwr, canwr, actor ffilm |
Arddull | cerddoriaeth boblogaidd, rhythm a blŵs |
Partner | Ricky Norwood |
Blwyddyn | Sengl | Man uchaf yn y siart | Albwm | ||
---|---|---|---|---|---|
DU | IWE | RWS | |||
2008 | "Got You" | - | - | - | Sengl yn unig |
2009 | "It's My Time" | 50 | - | 264 | I'w gyhoeddi |
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Jade Ewen, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.