Roedd John Gwyn Griffiths (enw llawn: John Gwynedd Griffiths; 7 Rhagfyr 1911 - 15 Mehefin 2004) yn ysgolhaig, yn feirniad, yn olygydd ac yn genedlaetholwr Cymreig a aned yn y Porth, y Rhondda.
John Gwyn Griffiths | |
---|---|
Ganwyd | 7 Rhagfyr 1911 y Porth |
Bu farw | 15 Mehefin 2004 Abertawe |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | bardd, ysgolhaig clasurol, eifftolegydd |
Cyflogwr | |
Priod | Kate Bosse-Griffiths |
Plant | Robat Gruffudd, Heini Gruffudd |
Cyhoeddodd J. Gwyn Griffiths astudiaethau ar destunau Groeg a Lladin ac ar grefydd yr Aifft. Bu'n athro yn y Clasuron ac Eifftoleg yng ngholeg Prifysgol Cymru, Abertawe.
Roedd yn fab i'r Parchedig Robert Griffiths, gweinidog gyda'r Bedyddwyr yn eglwys Moreia, yn y Pentre, Rhondda. Cafodd ei addysg yn Ysgol Sir y Bechgyn, yn y Porth, graddio mewn Lladin a Groeg yng Ngholeg y Brifysgol, Caerdydd. Yna astudiodd Eiffteg a Hebraeg ym Mhrifysgol Lerpwl am dair blynedd, cyn bod yn fyfyriwr ymchwil yn Rhydychen. Bu'n athro Lladin yn ei hen ysgol yn y Porth ac yn y Bala cyn cael ei apwyntio yn 1946 yn ddarlithydd cynorthwyol yn Adran y Clasuron yng Ngholeg y Brifysgol, Abertawe.
Roedd yn llenor ac yn un o sylfaenwyr Cylch Cadwgan gan gyhoeddi cyfrolau o farddonaieth ac astudiaethau llenyddol. Roedd yn genedlaetholwr brwd a safodd etholiadau dros Blaid Cymru.
Roedd yn briod â'r llenor a'r arbenigwraig ar Eifftoleg, sef Kate Bosse Griffiths a chawsant ddau fab, yr awduron Robat Gruffudd (ganwyd 1943), sefydlydd Gwasg y Lolfa, a Heini Gruffudd (ganwyd 1946), awdurdod ar ddysgu'r Gymraeg i oedolion ac ymgyrchydd brwd.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article John Gwyn Griffiths, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.