Roedd Kate Bosse-Griffiths (16 Gorffennaf 1910 - 4 Ebrill 1998) yn arbenigwraig ar Eifftoleg, ac yn llenor Cymraeg.
Ganed Kate yn Käthe.
Kate Bosse-Griffiths | |
---|---|
Ganwyd | Käthe Julia Gertrud Bosse 16 Gorffennaf 1910 Wittenberg |
Bu farw | 4 Ebrill 1998 Abertawe |
Dinasyddiaeth | yr Almaen, y Deyrnas Unedig |
Galwedigaeth | eifftolegydd, archeolegydd, anthropolegydd, ysgrifennwr |
Tad | Paul Bosse |
Mam | Käthe Bosse |
Priod | John Gwyn Griffiths |
Plant | Robat Gruffudd, Heini Gruffudd |
Ganed Kate Bosse-Griffiths yn Wittenberg, yr Almaen, lle'r oedd ei thad yn llawfeddyg. Aeth i brifysgolion Berlin, Bonn a Munich. Astudiodd y Clasuron ac Eifftoleg. Cafodd ei PhD ym 1935. Roedd hi'n Athro prifysgol yn Adran Eifftoleg Coleg Prifysgol Llundain am gyfnod byr cyn ymuno ag Adran Hynafiaethau Amgueddfa'r Ashmolean yn Rhydychen ym 1938. Roedd ei gẅr, J. Gwyn Griffiths yn Athro prifysgol yn Rhydychen. Priodasant ei gilydd ym 1939.
Symudodd Bosse-Griffiths a'i gŵr i Abertawe a dechrau gweithio yng Ngholeg Prifysgol Abertawe. Daeth yn aelod o Sefydliad Brenhinol De Cymru, lle daeth hi'n geidwad mygedol Archaeoleg.
Ysgrifennodd lyfrau ac erthyglau amrywiol yn Gymraeg, Saesneg ac Almaeneg.
Roedd yn fam i Robat Gruffudd, sylfaenydd gwasg gyhoeddi Y Lolfa a'r academydd a hyrwyddwr y Gymraeg, Heini Gruffudd. Roedd yn fam-gu i Efa Gruffudd Jones, cyn Brif Weithredwraig Urdd Gobaith Cymru.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Kate Bosse-Griffiths, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.