Kate Bosse-Griffiths: Eifftolegydd ac awdures

Roedd Kate Bosse-Griffiths (16 Gorffennaf 1910 - 4 Ebrill 1998) yn arbenigwraig ar Eifftoleg, ac yn llenor Cymraeg.

Ganed Kate yn Käthe.

Kate Bosse-Griffiths
Kate Bosse-Griffiths: Bywgraffiad, Gweithiau
GanwydKäthe Julia Gertrud Bosse Edit this on Wikidata
16 Gorffennaf 1910 Edit this on Wikidata
Wittenberg Edit this on Wikidata
Bu farw4 Ebrill 1998 Edit this on Wikidata
Abertawe Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethyr Almaen, y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Galwedigaetheifftolegydd, archeolegydd, anthropolegydd, ysgrifennwr Edit this on Wikidata
TadPaul Bosse Edit this on Wikidata
MamKäthe Bosse Edit this on Wikidata
PriodJohn Gwyn Griffiths Edit this on Wikidata
PlantRobat Gruffudd, Heini Gruffudd Edit this on Wikidata

Bywgraffiad

Ganed Kate Bosse-Griffiths yn Wittenberg, yr Almaen, lle'r oedd ei thad yn llawfeddyg. Aeth i brifysgolion Berlin, Bonn a Munich. Astudiodd y Clasuron ac Eifftoleg. Cafodd ei PhD ym 1935. Roedd hi'n Athro prifysgol yn Adran Eifftoleg Coleg Prifysgol Llundain am gyfnod byr cyn ymuno ag Adran Hynafiaethau Amgueddfa'r Ashmolean yn Rhydychen ym 1938. Roedd ei gẅr, J. Gwyn Griffiths yn Athro prifysgol yn Rhydychen. Priodasant ei gilydd ym 1939.

Symudodd Bosse-Griffiths a'i gŵr i Abertawe a dechrau gweithio yng Ngholeg Prifysgol Abertawe. Daeth yn aelod o Sefydliad Brenhinol De Cymru, lle daeth hi'n geidwad mygedol Archaeoleg.

Ysgrifennodd lyfrau ac erthyglau amrywiol yn Gymraeg, Saesneg ac Almaeneg.

Roedd yn fam i Robat Gruffudd, sylfaenydd gwasg gyhoeddi Y Lolfa a'r academydd a hyrwyddwr y Gymraeg, Heini Gruffudd. Roedd yn fam-gu i Efa Gruffudd Jones, cyn Brif Weithredwraig Urdd Gobaith Cymru.

Gweithiau

Eifftoleg

  • Die menschliche Figur in der Rundplastik der ägyptischen Spätzeit von der XXII. bis zur XXX. Dynastie. Glückstadt, Hamburg, New York 1936 (= Ägyptologische Forschungen ; 1)
  • Tywysennau o'r Aifft. Llandybie 1970
  • Amarna studies : and other selected papers. Hrsg. von John Gwyn Griffiths. Fribourg 2001 (= Orbis biblicus et orientalis ; 182)

Gweithiau llenyddol

  • Anesmwyth hoen. Llandybie 1941
  • Fy chwaer Efa : a storïau eraill . Dinbych 1944
  • Mae'r galon wrth y llyw : nofel. Aberystwyth 1957
  • Cariadau. Talybont, Dyfed 1995
  • Teithiau'r meddwl : ysgrifau llenyddol. Casglwyd a golygwyd gan J. Gwyn Griffiths. Talybont, Ceredigion 2004

Eraill

  • Mudiadau Heddwch yn Yr Almaen (Friedensbewegungen in Deutschland). 1943
  • Trem ar Rwsia a Berlin. Llandysul 1962
  • Byd y dyn hysbys : swyngyfaredd yng Nghymru. Talybont, Dyfed 1977

Tags:

Kate Bosse-Griffiths BywgraffiadKate Bosse-Griffiths GweithiauKate Bosse-Griffiths16 Gorffennaf191019984 EbrillEifftolegLlenyddiaeth Gymraeg

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

Tŷ'r Cyffredin (Y Deyrnas Unedig)Galileo GalileiStepan BanderaWilhelm DiltheyLloegrNollywood BabylonDuel On The MississippiRhyw geneuol2021William ShatnerA Beautiful PlanetSafleoedd rhywRygbi'r undeb5 RhagfyrTafarn Y Bachgen DuStygianRhyw llawDiciâuGoogleYr Undeb SofietaiddNodiant cerddorolHelen o Waldeck a PyrmontSefydliad WicifryngauThe Salton SeaGwin29 IonawrO Princezně, Která RáčkovalaPlwmpNewham (Bwrdeistref Llundain)18 ChwefrorCoronation Street2022Ffotograffiaeth erotigGeorge SteinerBloc PartyTulia, TexasDydd Iau CablydTîm Pêl-droed Cenedlaethol SwedenNeft Kəşfiyyatçıları1956ChicagoFfiseg gronynnauCanabisBrysteY CremlinNewyn Mawr IwerddonNia Ben AurOrson WellesAnnibynnwr (gwleidydd)Albert II, brenin Gwlad BelgAlergeddLlyffant1475GwainY Deyrnas UnedigAlbert CamusAnkstmusikParth cyhoeddusCyfathrach Rywiol FronnolBrexitGogledd America🡆 More