Robat Gruffudd: Cyhoeddwr ac awdur o Gymro

Cyhoeddwr ac awdur yw Robat Gruffudd (ganed Robert Paul Griffiths, 27 Chwefror 1943) a sefydlodd wasg Y Lolfa, un o'r gweisg mwyaf dylanwadol yng Nghymru.

Mae'n fab i Kate Bosse Griffiths a'r Athro John Gwyn Griffiths, ac yn frawd i Heini Gruffudd. Ganed yn 1943 yn y Rhondda, a'i fagu yn Abertawe. Yn 1964 graddiodd yng ngholeg Prifysgol Cymru, Bangor mewn athroniaeth a seicoleg. Ond gwrthododd dderbyn y radd fel protest yn erbyn gwrthgymreigrwydd awdurdodau'r coleg.

Robat Gruffudd
GanwydRobert Paul Griffiths Edit this on Wikidata
27 Chwefror 1943 Edit this on Wikidata
Y Rhondda Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethbardd, cyhoeddwr Edit this on Wikidata
TadJohn Gwyn Griffiths Edit this on Wikidata
MamKate Bosse-Griffiths Edit this on Wikidata

Gyrfa

Sefydlodd y cylchgrawn dychanol Lol gyda Penri Jones yn 1965, a gwasg gyhoeddi ac argraffu Y Lolfa yn Nhal-y-bont, Ceredigion, yn 1967. Dau o'i feibion, Garmon Gruffudd a Lefi Gruffudd, yw rheolwyr presennol y wasg. Mae ei fab hynaf, Einion, yn Reolwr Clyweled ac Archif Ddarlledu yn Y Llyfrgell Genedlaethol.

Mae wedi cyhoeddi pedair nofel. Enillodd ei nofel Y Llosgi Wobr Goffa Daniel Owen yn 1986, ac roedd ei ail nofel Crac Cymraeg ar restr fer Llyfr y Flwyddyn yn 1996. Cyhoeddodd y nofel, Carnifal yn 2004, ac yn 2013 enillodd Wobr Goffa Daniel Owen eto gyda'i nofel Afallon. Mae hefyd wedi cyhoeddi dwy gyfrol o farddoniaeth, Trên y Chwyldro (1974) ac A Gymri di Gymru? (2009). Yn 2016, cyhoeddodd Lolian, y dyddiadur anffurfiol a gadwodd dros yr hanner canrif diwethaf.

Yn 2007 enillodd wobr Cwlwm Cyhoeddwyr Cymru am gyfraniad oes i'r byd llyfrau Cymraeg. Bu am gyfnod ar fwrdd Dyddiol Cyf., y cwmni oedd wedi gobeithio sefydlu papur dyddiol Cymraeg, Y Byd. Mae'n aelod o fwrdd Dyfodol i'r Iaith ac yn parhau i weithio yng ngwasg Y Lolfa.

Cyfeiriadau

Robat Gruffudd: Cyhoeddwr ac awdur o Gymro  Eginyn erthygl sydd uchod am lenor neu awdur Cymreig. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.

Tags:

1943196427 ChwefrorAbertaweHeini GruffuddJohn Gwyn GriffithsKate Bosse GriffithsPrifysgol Cymru, BangorRhonddaY Lolfa

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

Newyn Mawr IwerddonComin WicimediaTudur OwenBitməyən ömürGoogleCyflwr cyfarcholGambloSant NicolasPlwmpBrasilPrifysgol GenefaYr AlbanGobaith a Storïau EraillRwsiaAlmanacGwamBanc LloegrYnysoedd Gogledd MarianaSofliarGareth RichardsGeorgia1918Noson o FarrugWilliam Jones (ieithegwr)El Sol En BotellitasBoduanWashington County, OregonWar of the Worlds (ffilm 2005)Rhyw geneuolPwylegColomenParc Coffa YnysangharadStygianJuan Antonio VillacañasMelangellCiwbaWinnebago County, WisconsinFflorida365 Dydd3 TachweddWashington, D.C.Pencampwriaeth Pêl-droed EwropWaxhaw, Gogledd CarolinaCanghellor y TrysorlysGweriniaeth Ddemocrataidd CongoHanna KatanAnna SewardOfrenda a La TormentaGwinAtgyfodiad yr Iesu5 MawrthAlldafliad benywThe Hitler GangCyfathrach Rywiol Fronnol1833Y Deyrnas UnedigCanabisData cysylltiedigTwo For The MoneyAnna VlasovaO Princezně, Která RáčkovalaSefastopolBlodeuglwmRwmanegBarddoniaethGwyddoniadurMorfydd E. Owen🡆 More