Islam yw'r ail grefydd fwyaf yn y byd ar ôl Cristnogaeth gyda 1.3-1.8 biliwn o gredadwyr, sy'n cynnwys 20-25% o boblogaeth y byd gyda'r rhan fwyaf o ffynonellau yn amcangyfrif fod tua 1.5 biliwn o Fwslimiaid yn y byd.
Enghraifft o'r canlynol | erthygl sydd hefyd yn rhestr |
---|---|
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Islam yw'r brif grefydd yn y Dwyrain Canol, rhai rhannau o Affrica ac Asia. Ceir cymunedau sylweddol o Fwslimiaid yn Ngweriniaeth Pobl Tsieina, Bosnia-Hertsegofina, Dwyrain Ewrop a Rwsia hefyd. Mewn rhai rhannau eraill o'r byd, ceir poblogaethau o fewnfudwyr Mwslimaidd; yng Ngorllewin Ewrop Islam yw'r ail grefydd fwyaf ar ôl Cristnogaeth.
Mewn tua 30 i 40 o wledydd y byd mae Mwslimiaid yn ffurfio mwyafrif y boblogaeth. De Asia a De-ddwyrain Asia yw'r rhanbarthau lle ceir y gwledydd Mwslim mwyaf; Ceir dros 100 miliwn o Fwslimiaid ym mhob un o'r gwledydd hyn: Indonesia, Pacistan, India (lleiafrif), a Bangladesh. Yn ôl llywodraeth yr Unol Daleithiau, roedd yna dros 20 miliwn Mwslim yng Ngweriniaeth Pobl Tsieina yn 2006 (canran isel o'r boblogaeth er hynny, yn byw yng ngorllewin y wlad yn bennaf). Yn y Dwyrain Canol, Twrci ac Iran, sydd ddim yn wledydd Arabaidd, yw'r gwledydd mwyaf gyda mwyafrif Mwslimaidd; yn Affrica, ceir y cymundau Mwslim mwyaf yn Yr Aifft a Nigeria. Mae mwyafrif llethol poblogaeth gwledydd y Maghreb yn Fwslimiaid hefyd.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Islam yn ôl gwlad, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.