Sant Cymreig o ganrif 6 oedd Sant Ilar (Lladin: Elerius; Saesneg (o bosib): Hilary, Hilarus)) a gysylltir gyda dwy eglwys: Llanilar a Threfilan (hen enw: Trefilar); lleolir Llanilar yng ngogledd Ceredigion tua 4 milltir i'r de o Aberystwyth, a Threfilar ddeng milltir i'r de o Lanilar.
Gelwir ef weithiau'n Ilar Bysgotwr. Mae Lewis Glyn Cothi (C15) yn cyfeirio at Ilar:
Ilar | |
---|---|
Ganwyd | 6 g Teyrnas Ceredigion |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | mynach |
Blodeuodd | 570s |
Dydd gŵyl | 13 Ionawr, 14 Ionawr, 15 Ionawr |
Rhestrir Ilar fel un o seintiau'r Eglwys Geltaidd mewn sawl dogfen. Roedd 'Ilar' hefyd yn gantref. Mae ei ddydd gŵyl yn amrywio rhwng 13-15 Ionawr, ond nid yw'n cael ei dathlu bellach gan yr Eglwys yng Nghymru.
Mae rhai ysgolheigion wedi'i gysylltu gyda Hilary o Boitiers, ond mae'r rhan fwyaf yn mynnu fod y ddau sant yn bersonau cwbwl wahanol. Efallai mai achos y dryswch hwn oedd i rai haneswyr ei gangymryd am Sant Elian. Ceir pab yng nghanrif 5 hefyd o'r enw Hilarius, gyda chysylltiad Cymreig, a ordeiniodd Sant Elfis, a ordeiniodd, yn ei dro, Dewi Sant.
Ychydig a wyddom am Ilar, ar wahân i'w enw, ei gysylltiad gyda dwy eglwys ac iddo fod yn gyfaill i Sant Padarn a bod ganddo gysylltiad â Llydaw. a Chadfan. Awgrymir hefyd iddo gael ei ladd gan Sacsoniaid neu Wyddelod.
Ceir cyfeiriad at Sant Ilar gan Arthur Machen yn 1907, pan sgwennodd stori fer, "Levavi Oculos" ac eilwaith mewn ailbobiad o'r gwaith, sef ei nofel The Secret Glory (1922), sef stori am blentyn a'r Greal Santaidd.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Ilar, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.