Hanesydd o Gymro oedd yr Athro Emeritws Ieuan Gwynedd Jones (7 Gorffennaf 1920 – 29 Mehefin 2018)
Ieuan Gwynedd Jones | |
---|---|
Ganwyd | 7 Gorffennaf 1920 Pen-y-bont ar Ogwr |
Bu farw | 29 Mehefin 2018 Aberystwyth |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | academydd, hanesydd |
Cyflogwr | |
Gwobr/au | Cymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru |
Fe'i magwyd yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr yn fab i löwr. Roedd ei fam yn hannu o Wynedd gan roi ei enw canol iddo a roedd ganddo un brawd, Simeon. Mynychodd Ysgol Ramadeg Pen-y-bont ar Ogwr ac er ei fod yn fachgen disglair, roedd rhaid iddo adael yr ysgol yn 14 oed i ennill cyflog. Bu'n forwr am flynyddoedd cyn i'w iechyd dorri a gweithiodd hefyd fel dyn signal ar y rheilffordd ym Mhontardawe.
Ar ôl Yr Ail Ryfel Byd ail-gydiodd yn ei addysg a chafodd radd cyntaf mewn Saesneg ym Mhrifysgol Abertawe yna MA a chymrodoriaeth ymchwil yn Peterhouse, Caergrawnt.
Cafodd swydd yn Adran Hanes Prifysgol Cymru Abertawe, gan weithio gyda rhai o haneswyr pwysig eraill yn cynnwys Glanmor Williams, K.O. Morgan, Gwyn Alf Williams, John Davies a Ralph Griffiths.
Ar ddiwedd yn 1960au fe'i benodwyd i Gadair Syr John Williams fel Athro Hanes Cymru ym Mhrifysgol Aberystwyth. Cafodd ei urddo'n Gymrawd Prifysgol Aber yn Ngorffennaf 2010.
Roedd yn briod a Maisie, oedd yn enedigol o Gwm Tawe. Roedd ganddynt un mab, Alun. Treuliodd rhan fwyaf o'i fywyd yn Aberystwyth. Bu farw yn Ysbyty Bronglais ar ddydd Gwener 29 Mehefin 2018.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Ieuan Gwynedd Jones, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.