Y Bardd Coch O Fôn Hugh Hughes: Bardd ac uchelwr

Bardd, golygydd a chyfieithydd Cymreig o'r 18g a gysylltir â chylch llenyddol Morysiaid Môn oedd Hugh Hughes neu Y Bardd Coch o Fôn (weithiau hefyd Huw ap Huw neu Huw Huws neu Y Bardd Coch) (22 Mawrth 1693 – 6 Ebrill 1776).

Hugh Hughes
FfugenwY Bardd Coch Edit this on Wikidata
Ganwyd1 Awst 1693 Edit this on Wikidata
Llandyfrydog Edit this on Wikidata
Bu farw6 Mai 1776 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethbardd Edit this on Wikidata
Cysylltir gydaLewis Morris Edit this on Wikidata

Bywgraffiad

Ganed Hugh Hughes yn Llwydiarth Esgob ym mhlwyf Llandyfrydog, ger Llannerch-y-medd, Môn yn 1693.

Dechreuodd farddoni yn ifanc a daeth i sylw Lewis Morris a'i frodyr. Daeth yn aelod gohebol o Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion.

Gwaith llenyddol

Ceir detholiad o rai o'i gerddi yn y cyfrolau Dewisol Ganiadau yr Oes Hon (1759), Diddanwch Teuluaidd (1763) a Diddanwch i'w Feddianydd (1773). Mae'n enwog am ei gywydd annerch i Goronwy Owen a symbylodd y bardd hwnnw i gyfansoddi un o'i gerddi mwyaf adnabyddus, 'Cywydd yn ateb Huw'r Bardd Coch', sy'n folawd i Ynys Môn.

Cyfieithodd y Bardd Coch ddau lyfr i'r Gymraeg, ar bynciau moesol.

Llyfryddiaeth

Blodeugerddi'r 18fed ganrif

Cyhoeddwyd peth o waith y bardd yn:

  • Dewisol Ganiadau yr Oes Hon (1759). Golygwyd gan Hugh Hughes.
  • Diddanwch Teuluaidd (1763). Golygwyd gan Hugh Hughes.
  • Diddanwch i'w Feddianydd (1773)

Llawysgrifau

Mae eraill o'i gerddi yn aros yn y llawysgrifau neu ar gael yma ac acw yn almanaciau'r cyfnod.

Mae llyfr yn llawysgrifen Y Bardd Coch ei hun sef 'Llyfr Melyn Tyfrydog' nawr yn nwylo Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth. Cafodd ei atgyweiro gan y llyfrgell ac mae bellach ar gael i'w ddarllen ac ystudio yno; mae'n cynnwys cerddi, nodiadau, carolau plygain ac ymchwiliaeth helaeth i deuluoedd yr ardal yn ogystal â theulu'r Bardd Coch ei hun.[angen ffynhonnell]

Detholiadau diweddar

  • D. Gwenallt Jones (gol.), Blodeugerdd o'r Ddeunawfed Ganrif (Caerdydd, 1938). 'Cywydd yn ateb Huw'r Bardd Coch'.

Cyfeiriadau

Tags:

Y Bardd Coch O Fôn Hugh Hughes BywgraffiadY Bardd Coch O Fôn Hugh Hughes Gwaith llenyddolY Bardd Coch O Fôn Hugh Hughes LlyfryddiaethY Bardd Coch O Fôn Hugh Hughes CyfeiriadauY Bardd Coch O Fôn Hugh Hughes1693177618g22 Mawrth6 EbrillCymryMorysiaid Môn

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

FfistioChwyldro RwsiaLaboratory ConditionsAdnabyddwr gwrthrychau digidolCatfish and the BottlemenLlywodraeth leol yng NghymruWicipedia CymraegLinda De MorrerEtholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 2015Pyramid sgwârMynediad am DdimCaerdyddMarie AntoinetteMerch Ddawns IzuScandiwmPeiriant WaybackAmanita'r gwybed25 Ebrill2020PoblogaethHaearnWelsh TeldiscPont Golden GateFideo ar alwBelarwsTeyrnon Twrf LiantModern FamilyTaxus baccataStygianWcráinBodelwyddanBonheur D'occasionTân yn LlŷnCyfathrach Rywiol FronnolL'ultimo Treno Della NotteISO 4217EwcaryotCemegTrosiadTrearddurCSF3Eva StrautmannCurtisden GreenCarnosaur1965Jim MorrisonBoncyffETAIslamCentral Coast, New South WalesPysgodynCyfanrifEllen Laan1968Coleg TrefecaAdiós, Querida LunaDriggPenélope CruzWalla Walla, Washington1906NovialParth cyhoeddusLlydawegParalelogramMichelle ObamaLos AngelesFfrangegMagnesiwmGweriniaeth Pobl WcráinY Groes-wenOprah WinfreyAwstralia🡆 More