Awdur llyfrau plant Cymraeg oedd Hugh Brython Hughes (8 Ebrill 1848 – 24 Gorffennaf 1913), a gyhoeddai wrth yr enw H.
Brython Hughes. Cyhoeddodd nifer o straeon, cerddi a thestunau eraill ar gyfer plant a phobl ifanc ar droad yr 20g.
Hugh Brython Hughes | |
---|---|
Ganwyd | 8 Ebrill 1848 Tre-garth |
Bu farw | 24 Gorffennaf 1913 Aberystwyth |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | athro |
Ganed Hughes ym mhentref Tregarth, ger Bangor yn yr hen Sir Gaernarfon (Gwynedd) yn 1848, yn unig fab y llenor Hugh Derfel Hughes. Cafodd ei addysg yng Ngholeg y Normal, Bangor, ac ar ôl graddio bu'n gweithio fel athro ysgol yn Walsall, Abercain, Gwalchmai, Y Bala a Llaneilian. Bu farw yn Aberystwyth yn 1913.
Bu'n gyfranwr cyson i gylchgronau Cymraeg, yn enwedig Cymru'r Plant, cylchgrawn O. M. Edwards. Cyhoeddodd sawl llyfr o gyfieithiadau o chwedlau gwerin, yn cynnwys Rhamant Plât y Pren Helyg o Tsieina a fersiwn o ddamhegion Aesop. Mae llawer o'i gyfieithiadau o chwedlau gwerin yn aros heb ei gyhoeddi. Ysgrifennodd nifer o straeon gwreiddiol hefyd, yn arddull rhamantaidd y cyfnod, a fwriedid yn bennaf fel llyfrau i ddysgu darllen Cymraeg i blant.
Ystyrir bod gwaith H. Brython Hughes yn pontio'r cyfnod rhwng llenyddiaeth plant foesol y 19g a llenyddiaeth fwy anturus yr 20g. Mae'r rhan fwyaf o'i gyfrolau yn ddarlunedig gan arlunwyr Cymreig cyfoes fel Downing Williams a T. Prytherch ac yn llyfrau deniadol.
Sawl cyfrol yn y gyfres Cyfres y Brython (1909-13)
Gwynn Jones, 'Hugh Brython Hughes', yn Dewiniaid Difyr (Gwasg Gomer, 1983)
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Hugh Brython Hughes, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.