Hanes Y Blynyddoedd O'r Blaen

Cronicl o Rws Kyiv sy'n adrodd hanes Slafiaid y Dwyrain o'r Dilyw hyd at y flwyddyn 1110 yw Hanes y Blynyddoedd o'r Blaen (Hen Slafoneg Dwyreiniol: Повѣсть времѧньныхъ лѣтъ trawslythreniad: Pověstĭ vremęnĭnyxŭ lětŭ).

Daw enw'r gwaith o frawddeg agoriadol ei destun: "Dyma hanesion y blynyddoedd o'r blaen parthed tarddiad gwlad Rws, tywysogion cyntaf Kyiv, ac o ba ffynhonnell y dechreuodd gwlad Rws." Fe'i elwir hefyd yn Gronicl Cynradd Rwsia, Cronicl Kyiv, neu Gronicl Nestor.

Hanes y Blynyddoedd o'r Blaen
Hanes Y Blynyddoedd O'r Blaen
Enghraifft o'r canlynolgwaith llenyddol Edit this on Wikidata
AwdurNestor o Kyiv Edit this on Wikidata
GwladRws Kyiv Edit this on Wikidata
IaithHen Slafeg dwyreiniol Edit this on Wikidata
Dyddiad cyhoeddi12 g Edit this on Wikidata
Genreffuglen hanesyddol, cronicl Edit this on Wikidata
CymeriadauKyi, Shchek, Khoryv, Lybid Edit this on Wikidata
Statws hawlfraintparth cyhoeddus, parth cyhoeddus Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Credir iddo gael ei gyfansoddi ar ei ffurf gynharaf yn ystod y 12g, gan ddechrau gyda fersiwn goll dybiedig a ysgrifennwyd yn Kyiv ym 1113. Priodolid yn draddodiadol i fynach o'r enw Nestor, ond bellach fe'i cydnabyddir yn gywaith neu gasgliad o sawl gwaith gwahanol, yn seiliedig ar ddeunydd o groniclau Bysantaidd, ffynonellau Slafig o'r de a'r gorllewin, dogfennau swyddogol Rws, a'r traddodiad llafar. Er ei fod yn gynharach o ran dyddiad cyfansoddi na'r holl groniclau canoloesol eraill sydd ar glawr heddiw o wledydd Rwsia, Belarws, ac Wcráin, cynhwysir y llawysgrif hynaf ohono yng Nghodecs Laurentius, sy'n dyddio o 1377. Y prif lawysgrifau eraill yw Codecs Ipatiev (oddeutu 1425), Cronicl Radziwiłł a Chronicl Academi Moscfa (y ddau o ddiwedd y 15g). Pery'r hanes yng Nghodecs Ipatiev hyd at 1117, yng Nghronicl Radziwiłł hyd at 1206, ac yng Nghronicl Academi Moscfa hyd at y 15g.

Hanes Y Blynyddoedd O'r Blaen
Dyfodiad Rurik yn Ladoga gan Apollinary Vasnetsov (1856-1933)

Ynghyd â Chronicl Cyntaf Novgorod, mae Hanes y Blynyddoedd o'r Blaen yn arbennig o bwysig am ei fod yn disgrifio digwyddiadau cynnar yn hanes Slafiaid y Dwyrain. Er enghraifft, mae'n adrodd sut y daeth tri brawd Llychlynnaidd a'u llwyth, y Rws, i greu seiliau gwladwriaeth Rws Kyiv yn 862:

"Dywedodd y Chud (llwyth Ffinnaidd) a'r Slovene a'r Krivichi (llwythi Slafaidd) a phawb wrth y Rws, "Mae ein gwlad yn fawr ac yn gyfoethog, ond nid oes trefn ynddi. Dewch i deyrnasu ac i reoli arnon ni." A dewisiwyd tri brawd a'u hil, a daethant â'r holl Rws gyda nhw, ac ymgartrefodd yr hynaf, Rurik, yn Novgorod, a'r ail, Sineus, yn Beloozero, a'r trydydd, Truvor, yn Izborsk. Ac o'r Farangiaid hyn y mae gwlad Rwsia yn cymryd ei henw."

Mae hefyd yn adrodd am ddyfodiad Cristnogaeth i Slafiaid y Dwyrain dan ddylanwad Olga o Kiev, a'r brwydrau cynnar rhwng tywysogion Slafiaid y Dwyrain.

Ffynonellau

  • D. S Likhachev a V. P. Adrianova-Peretts, Povest' Vremennykh Let (St Petersburg: Nauka, 1996)

Tags:

1110Rws CïefY DilywY Slafiaid

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

GenwsPidynCathUsenetCefin RobertsDewi Myrddin HughesStygianDulynSix Minutes to MidnightLady Fighter AyakaAlexandria RileyLlan-non, CeredigionPeiriant WaybackEssexAngel HeartEmyr DanielJimmy Wales11 TachweddSwedenVitoria-Gasteiz1895PuteindraEtholiad cyffredinol nesaf y Deyrnas Unedig yng NghymruGlas y dorlanLlandudnoCapreseYnysoedd FfaröeEmma TeschnerNasebyL'état SauvageCymruAngela 2BrexitMargaret WilliamsFylfaTajicistanXHamsterParisSystem weithreduEgni hydroMulherPapy Fait De La RésistanceMacOSHuluRhyfelMorocoCilgwriTrawstrefaCyfathrach rywiolTwo For The MoneyMapFaust (Goethe)CawcaswsHoratio NelsonAdolf HitlerSlofeniaParamount PicturesCaerGwïon Morris JonesThe FatherRichard Richards (AS Meirionnydd)Ani GlassWhatsAppSiriChwarel y RhosyddCyfrifegBanc canologRhufain🡆 More