Bardd a golygydd y cylchgrawn wythnosol Y Faner am dros 25 mlynedd oedd Gwilym Richard Jones (24 Mawrth 1903 – 29 Gorffennaf 1993).
Cafodd ei fagu yn Nhalysarn, Dyffryn Nantlle, Gwynedd.
Gwilym R. Jones | |
---|---|
Ganwyd | 24 Mawrth 1903 Tal-y-sarn |
Bu farw | 29 Gorffennaf 1993 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | bardd, newyddiadurwr |
Dechreuodd ei waith fel newyddiadurwr ar staff Yr Herald Cymraeg yng Nghaernarfon cyn symud i Faner ac Amserau Cymru yn 1945. Cyhoeddodd pum cyfrol o gerddi ynghyd â dwy nofel fer, Y Purdan (1942) a Seirff yn Eden (1963). Yn yr Eisteddfod Genedlaethol enillodd y Gadair yn 1938, y Goron (1935) a'r Fedal Ryddiaith (1941). Bu farw yn 1993 yn ddeg ar bedair ugain oed.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Gwilym R. Jones, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.