Dramodydd a darlithydd Cymraeg oedd y Dr.
John Gwilym Jones (27 Medi 1904 – 16 Hydref 1988). Fe'i ganwyd yn y Groeslon, Dyffryn Nantlle.
John Gwilym Jones | |
---|---|
Ganwyd | 27 Medi 1904 Groeslon |
Bu farw | 16 Hydref 1988 Groeslon |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | dramodydd |
Adnabyddus am | Rhyfedd y'n Gwnaed |
Bu'n athro yn Llundain cyn cael ei benodi yn gynhyrchydd drama gyda'r BBC, ac yna bu'n ddarlithydd yn Adran y Gymraeg, Bangor. Fe ysbrydolodd genedlaethau o fyfyrwyr, a daeth nifer ohonyn nhw'n nofelwyr Cymraeg enwog, rhai fel John Rowlands, Jane Edwards ac Eigra Lewis Roberts. Ysbrydolodd hefyd lu o actorion, megis Maureen Rhys.
Cafodd ei daro'n wael wrth ail-agor festri Capel Brynrhos, Groeslon a bu'n farw fuan wedyn. Cafodd ei ymlosgi ym Mangor ar 21 Hydref, a fe gladdwyd ei lwch ym medd ei rieni yn Llandwrog.
Sefydlwyd Cymdeithas John Gwilym Jones, cymdeithas lên Gymraeg Prifysgol Bangor, ar yr 2il o Hydref 2018 er cof amdano. Penderfynwyd enwi'r Gymdeithas ar ôl y dramodydd enwog am y cred nifer o bobl na wnaed digon i goffau'r llenor o'r Groeslon wedi ei farwolaeth.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article John Gwilym Jones (dramodydd), which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.