Mewn cyfrifiadura, mae gweinydd (ll.
gweinyddion; Saesneg: server) yn cyfeirio at ddyfais neu'n set o ddyfeisiadau sydd a rhaglen gyfrifiadurol yn rhedeg arnynt er budd rhaglenni neu ddyfeisiadau eraill a elwir yn "gleientiaid". Gelwir y dull y maen nhw'n cysylltu a'i gilydd yn "bensaerniaeth cleient-gweinydd". Gallant wneud amryw o bethau (a elwir yn "wasanaethau"), megis rhannu data neu adnoddau eraill rhwng y cleientiaid, neu wneud cyfrifiannau i'r cleient. Gall un gweinydd wasanaethu sawl cleient, a gall un cleient ddefnyddio sawl weinyddwyr ar y tro. Yn wreiddiol, roedd y term 'gweinydd' yn cyfeirio at y feddalwedd, ond gydag amser daeth i olygu'r ddyfais lle'r eisteddai'r feddalwedd. Ar rwydwaith o weinyddion, gelwir y gweinydd canolog yma yn "westeiwr" (host).
Ceir gwahanol fathau o weinyddion, gan gynnwys y gweinydd data, gweinydd ffeiliau, gweinydd post, gweinydd argraffu, gweinydd gwe, gweinydd gemau a gweinydd i redeg rhaglenni cyfrifiadurol.
Mae'r rhan fwyaf ohonynt yn gweithio ar y model a elwir yn "fodel gofyn a rhoi" (request–response model), lle mae'r cleient yn anfon cais i'r gweinydd, sydd yn ei dro yn gweithredu mewn rhyw fodd, ac yna'n danfon neges yn ôl i'r cleient, a'r cleient yntau'n cadarnhau hynny. Mae labelu cyfrifiadur fel gweinydd yn awgrymu ei fod yn gyfrifiadur arbenigol sy'n rhedeg gweinyddion mewnol. Fel arfer, dim ond cyfrifiaduron cadarn, pwerus, sy'n cael eu defnyddio i'r pwrpas yma.
Bathwyd y gair Cymraeg yn niwedd y 1990au; cyfieithiad yw o'r gair Saesneg server a ddefnyddiwyd am y tro cyntaf i'r ddogfen RFC 5, a sgwennwyd yn 1969 i ddisgrifio'r ARPANET, rhagflaenydd y rhyngrwyd.
Mae'r diffiniad cyntaf i'w gael yn The Jargon File:
Yn 2012, roedd canolfannau gweinyddu'n (hy canolfannau o weinyddion) yn gyfrifol am ddefnyddio 1.1-1.5% o'r trydan a gynhyrchwyd yn fydeang.
|
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Gweinydd (cyfrifiadur), which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.