Gronw Pebr

Arglwydd Penllyn yn y Mabinogi Math fab Mathonwy oedd Gronw Pebr (Cymraeg Canol: Gronw Pebyr).

Mae'r enw 'Gronw' yn ffurf gynnar ar yr enw personol 'G(o)ronwy'. Mwy anodd yw esbonio 'Peb(y)r'. Bu cymysgiad yn y testun. Ceir yr amrywiadau 'Pybyr', 'Pebyr' a 'Pef(y)r'. Os 'pybyr' yr ystyr yw "cryf, darbodus". Ystyr 'pefr' yw "disglair, hardd, golau" ac efallai mai hyn sydd fwyaf addas i Ronw.

Gronw Pebr
Gronw Pebr a Blodeuwedd, llun gan Ernest Wallcousins (1882–1976)

Cynlluniodd Gronw gyda Blodeuwedd i ladd ei gŵr Lleu Llaw Gyffes. Gwyddai Blodeuwedd na ellid lladd Lleu fel dyn cyffredin, a holodd ei gyfrinach gan gymryd arni ei bod yn poeni amdano. "Paid â phoeni," meddai Lleu. "Dim ond un ffordd y gellir fy lladd. Rhaid yn gyntaf i mi ymolchi mewn cafn a tho arno ar lan afon. Wedyn, os safaf ar un troed ar ymyl y cafn a’r llall ar gefn bwch, a’m taro â gwaywffon, yna gellir fy lladd. Ond rhaid bod blwyddyn yn gwneuthur y waywffon a hynny adeg gwasanaeth y Sul yn unig."

Adroddodd Blodeuwedd y gyfrinach wrth Gronw a dechreuodd wneud y waywffon. Ymhen blwyddyn roedd popeth yn barod. Roedd Blodeuwedd, Lleu a Gronw ar lan Afon Cynfal (ger Ffestiniog heddiw). Gofynnodd Blodeuwedd i Lleu ei hatgoffa sut y safai cyn y gellid ei ladd, a gwnaeth Lleu hyn heb wybod fod Gronw yn cuddio gerllaw.

Taflodd Gronw y waywffon at Lleu a throwyd ef yn eryr a chyda bloedd ofnadwy hedodd i ffwrdd. Yn fuan wedyn priodwyd Gronw Pebr a Blodeuwedd a phan glywodd Gwydion am hyn penderfynodd fynd i weld beth a ddigwyddodd i Lleu.

Gyda chymorth hwch daeth Gwydion o hyd i'w nai yn eistedd ar frigyn uchaf derwen. Meddyliodd ar unwaith mai Lleu oedd yr eryr a dechreuodd adrodd englynion wrtho, sef Englynion Gwydion, nes iddo ddisgyn ar lin Gwydion. Yna trawodd yr aderyn â hudlath gan ddychwelyd Lleu Llaw Gyffes i'w ffurf ei hun, ond yn wael iawn ei wedd.

"Mynnaf ddial y cam a gefais," meddai Gwydion, ac aeth i chwilio am Flodeuwedd. Daliwyd hi wrth Llyn y Morynion a dywedodd Gwydion wrthi, "Ni chei dy ladd, ond cei dy droi yn aderyn ac oherwydd y cam a wnaethost â Lleu ni chei ddangos dy wyneb yn y dydd rhag ofn yr holl adar eraill. Ni cholli dy enw, gelwir di byth yn Blodeuwedd." A chyda hynny trowyd Blodeuwedd yn dylluan. Bu raid i Gronw Pebr sefyll fel y gwnaeth Lleu ar lan Afon Cynfal a lladdwyd ef gan Lleu â gwaywffon.

Tags:

Cymraeg CanolMath fab MathonwyPedair Cainc y MabinogiPenllyn

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

Gemau Olympaidd y Gaeaf 2014Arbeite Hart – Spiele HartY Brenin a'r BoblEtholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 2015Derbynnydd ar y topPen-caerAbaty Dinas BasingMyrddin ap DafyddPidynSainte-ChapelleSisters of AnarchySarah PalinOnce Were WarriorsYMarian-glasCentral Coast (New South Wales)Enwau lleoedd a strydoedd CaerdyddPlanhigynFideo ar alw21 EbrillLlundainAneirin KaradogChandigarh Kare AashiquiCarles PuigdemontCrundaleDrôle De FrimousseArfon GwilymCyfathrach rywiolPanda MawrUnol Daleithiau AmericaSystem weithreduEisteddfod Genedlaethol CymruEmily HuwsSir DrefaldwynBhooka SherFfilm yn yr Unol DaleithiauWikipediaUsenetThomas Gwynn JonesHywel PittsNovialNitrogenBruce SpringsteenCaergrawntCylchfa amserDaeargryn Sichuan 2008LluoswmTrychineb ChernobylAdiós, Querida LunaBremenAlcemiIncwm sylfaenol cyffredinolNicelArlywydd yr Unol DaleithiauDaearegTiriogaeth Brydeinig Cefnfor IndiaAwstraliaLaosGaianaTsileReggaeI am SamEs Geht Nicht Ohne GiselaGwen StefaniRhian MorganInvertigoCod QRSorelaRwmaniaLucy ThomasKim Jong-un🡆 More